Cymru'n ennill am y tro cyntaf yng Nghwpan Hoci'r Byd

  • Cyhoeddwyd
Jacob DraperFfynhonnell y llun, World Sport Pics

Mae tîm hoci dynion Cymru wedi ennill gêm yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf erioed, ar ôl trechu Ffrainc ar ergydion o'r smotyn.

Fe orffennodd yr ornest yn 2-2, cyn i'r golwr Toby Reynolds-Cotterill arbed pedair o ergydion y Ffrancwyr o'r smotyn i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Fe aeth Cymru ar y blaen diolch i Luke Hawker, oedd yn ennill cap rhif 117 dros ei wlad, cyn i Corentin Sellier sgorio dwy i Ffrainc.

Rhwydodd Gareth Furlong i'w gwneud hi'n hafal ar yr egwyl, ac felly y gorffennodd yr ornest wrth i Gymru amddiffyn yn gryf i fynd i ergydion o'r smotyn.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu y bydd Cymru, sy'n 14eg yn rhestr detholion y byd, nawr yn wynebu'r Ariannin ddydd Sadwrn yn eu gêm olaf.

Byddai buddugoliaeth yn sicrhau eu bod yn gorffen yn 9fed neu 10fed, a hynny yn eu hymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth.

Yn gynharach yn y gystadleuaeth roedd Cymru wedi gorffen ar waelod eu grŵp ar ôl colli pob gêm - 5-0 yn erbyn Lloegr, 5-1 yn erbyn Sbaen, a 4-2 yn erbyn India, sy'n cynnal y twrnament.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol