Achubwr o Gymru'n cofleidio'i fab ar ôl dychwelyd o Dwrci
Dyma'r foment y mae Phil Irving, swyddog tân o Hwlffordd, yn cofleidio'i fab, Evan, ar ôl dychwelyd o fod yn achub bywydau yn dilyn daeargryn Twrci.
Roedd Mr Irving yn rhan o dîm aeth allan i Dwrci i helpu gydag ymdrechion i achub pobl yno'n dilyn y daeargryn diweddar yn yr ardal.
Fe dreuliodd 17 awr ddydd Sadwrn yn helpu i achub swyddog heddlu a dynes o adeilad wyth llawr oedd wedi disgyn yn Hatay.
Mae wedi cymryd rhan mewn ymdrechion achub ar draws y byd, ond yn dweud nad ydyn nhw fyth yn mynd yn haws.
"Dydych chi ddim yn cael eich dadsensiteiddio i'r peth," meddai Mr Irving, 46, sy'n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a Gorllewin.
Roedd yntau a rhai o'i gydweithwyr yn y gwasanaeth wedi cael eu hanfon allan i Dwrci gan Y Swyddfa Dramor fel rhan o ymateb Llywodraeth y DU i'r trychineb.
Ddydd Iau fe ddychwelodd Mr Irving adref i Hwlffordd, gan roi syrpreis i'w blant Evan ac Esmei yn Ysgol Caer Elen.