Naw pafiliwn, miloedd o luniau: Atgofion Eisteddfodau Arwyn Herald

Yn gynharach yr wythnos hon fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol y byddai dwy ganolfan gystadlu newydd ar y Maes eleni ym Moduan, fydd yn llai na'r pafiliwn traddodiadol.

Un sy'n ymwybodol iawn o'r pafiliynau amrywiol sydd wedi bod ar feysydd yr Eisteddfod dros y blynyddoedd yw'r ffotograffydd Arwyn 'Herald' Roberts.

Am dros 40 mlynedd roedd Arwyn yn troedio meysydd y Brifwyl yn cofnodi'r hwyl ar y maes carafanau, y nerfusrwydd gefn llwyfan ac enillwyr y prif seremonïau.

Dyma Arwyn yn hel atgofion drwy adrodd y straeon y tu ôl i'r lluniau a dynnodd ym mhafiliynau'r Eisteddfod Genedlaethol.