Cadeirydd URC: 'Nawr mae'r gwaith caled yn dechrau'
Mae clybiau rygbi Cymru wedi cefnogi newidiadau sylweddol i fwrdd rheoli'r gamp.
Mewn cyfarfod arbennig ym Mhort Talbot, fe bleidleisiodd dros 97% o'r clybiau o blaid diwygio bwrdd rheoli Undeb Rygbi Cymru.
O dan y drefn newydd, fe fydd mwy o aelodau annibynnol, a mwy o fenywod yn aelodau o'r bwrdd.
Daw hyn ar ôl honiadau o ddiwylliant gwenwynig a chasineb tuag at ferched o fewn yr undeb.
Dywedodd Ieuan Evans, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru "ei fod yn bles ond mai nawr fydd y gwaith caled yn dechrau".
Adroddiad Alun Thomas.