Lluniau: Dydd Llun Eisteddfod yr Urdd // In pictures: Monday at the Urdd Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd

Os ydych chi'n methu â dod i Eisteddfod yr Urdd, dyma i chi flas ar yr awyrgylch a be' oedd yn digwydd ar y maes yn Llanymddyfri ar ddydd Llun cynta'r cystadlu.

Enjoy our picture highlights from around the field on the first day of competing at the 2023 Carmarthenshire Urdd Eisteddfod, held this year at Llandovery.

Parti dawnsio gwerin o Ysgol Llanddoged, Sir Conwy

Owain, Rowan, Anni, Tomos, Branwen ac Efa o Ysgol Llanddoged, Sir Conwy, yn paratoi i fynd ar lwyfan y pafiliwn gwyn i gystadlu yn y gystadleuaeth ddawnsio gwerin i ysgolion â dan 100 o blant.

Owain, Rowan, Anni, Tomos, Branwen and Efa from Ysgol Llanddoged, Conwy, getting ready to compete in the folk dancing competition for schools with less than 100 pupils.

Merch yn cael ei chludo mewn troli ar y maes!

Mae Emma, sydd ym mlwyddyn un yn Ysgol Gymraeg Caerffili, wedi blino ar ôl cerdded o amgylch y maes gyda'i thad-cu a'i mam-gu. Dyma ei thro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd ond fe wnaeth Peter, ei thad-cu, gystadlu yn Abergwaun nôl yn 1951!

All the walking around has been a bit too tiring for Emma from Ysgol Gymraeg Caerffili, who is attending the youth festival for the first time with her grandparents. Her grandfather, Peter, was a contestant at the 1951 festival at Fishguard!

Dawnsio gwerin o flaen pabell S4C

Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn cael un ymarfer bach arall cyn cystadlu.

One last rehearsal for Ysgol Gynradd Cymraeg Llwyncelyn before the competition starts.

Teulu gyda phram yn mwynhau danteithion

Casi, Osian, Caio a Dave yn mwynhau danteithion ar y maes - rhaid cadw'r lefelau egni'n uchel!

Casi, Osian, Caio and Dave are keeping their energy levels up by enjoying the many tasty snacks available on the Maes.

Plentyn yn cael gwers bwa saeth

Emyr yn cael gwers saethu bwa saeth gan Aled o griw chwaraeon yr Urdd… a do, mi darodd y bullseye!

Emyr managed to hit the bullseye under the watchful eye of Urdd instructor, Aled.

Mirain Iwerydd yn paratoi i recordio

Rhaid gwneud yn siŵr bod y meicroffôn yn y lle cywir i Mirain Iwerydd. Hi fydd yn cyflwyno rhaglen uchafbwyntiau'r maes ar S4C drwy'r wythnos.

Presenter Mirain Iwerydd is fronting a highlights show from the Maes on S4C throughout the week.

Dau blentyn yn chwarae hoci

Dyma Cadi ac Ifan, efeilliaid wyth oed o Gaerfyrddin, yn mwynhau gêm o hoci gyda Actif Cymru yn y pentref chwaraeon.

Eight year old twins from Carmarthen, Cadi and Ifan, are taking this hockey game very seriously at the festival's sports village.

Roedd Yr Arddorfa dan ei sang ar gyfer y Sioe Cyw gyntaf yr wythnos.

Roedd Yr Arddorfa dan ei sang ar gyfer sesiwn canu a dawnsio gynta'r wythnos gyda sêr Cyw.

The sun and the crowds were out for this singing and dancing session for the youngest festival-goers with the stars of S4C's Cyw programmes for young children.

Plentyn yn dawnsio i ganeuon Cyw gyda phlant a rhieni eraill

Wrth ei fodd! Roedd Moc o Dregaron yn un oedd wedi mwynhau dawnsio i ganeuon Cyw!

Moc from Tregaron must be one of Cyw's biggest fans!

Gwydion Rhys yn gwusgo ei fedal

Gwydion Rhys o Rachub, Dyffryn Ogwen, yw'r enillydd yn seremoni gyntaf yr wythnos, sef y Fedal Gyfansoddi. Dyfal donc yw'r neges gan Gwydion, sydd wedi dod yn agos i'r brig dair gwaith o'r blaen:

Gwydion Rhys from Rachub near Bethesda in Gwynedd was awarded the composer's medal in the main award ceremony of the day. Having come close to winning three time before, his message is: never give up.

Dwy ferch wrth y goeden ddymuniadau

Mae Lilah ac Aurora o Benrhyncoch wedi hongian neges 'pob lwc' ar goeden ddymuniadau Mistar Urdd, sydd yn y Ganolfan Groeso.

Lilah and Aurora from Penrhyncoch near Aberystwyth put a 'good luck' message on a Tree of Wishes at the Welcome Centre.

Ben a'i deulu

Mae wedi bod yn ddiwrnod llwyddiannus hyd yma i Ben Manville-Parry, 10, o Gaerdydd oedd ar y maes gyda'i deulu. Fe enillodd yr Unawd Telyn Bl.6 ac iau a'r Unawd Gitâr hefyd. Roedd Ben hefyd wedi ennill cystadleuaeth gwaith cartref am gyfansoddi - does dim rhyfedd bod ei deulu i gyd mor falch ohono!

No wonder his family is extremely proud of him - Ben Manville-Parry, 10, from Cardiffwon the Harp Solo for Yr. 6 and Under, the Guitar Solo and a music composition competition.

Bachgen ar feic heddlu

Gruffydd o Gas-gwent yn cael reid ar fotobeic Heddlu Dyfed Powys.

Gruffydd from Chepstow fancied a go on the Dyfed Powys Police motorbike.

Dyn yn gorwedd ar y maes yn yr haul

Mae eisteddfota'n waith blinedig... Dyma Carwyn Jones o Aberystwyth yn cymryd munud o hoe i dorheulo yn yr haul.

It's a tiring day for some... Here's Carwyn Jones from Aberystwyth taking a power nap in the sun.

Merched gyda masgot draig goch

Bydd Celyn, Lea, Lilly a Magw o Fro Teifi yn cystadlu ddydd Iau yng nghystadleuaeth y cyflwyniad dramatig ond yn gyntaf 'roedd rhaid cael llun gyda Dylan y Ddraig ar stondin Prifysgol Caerdydd.

Celyn, Lea, Lilly and Magw from Bro Teifi will be back on Thursday competing in the drama presention but they wanted to make sure they got a picture with Dylan the Dragon from Cardiff University before they left for the day.

Hefyd o ddiddordeb: