Fflamau i'w gweld ar barc busnes yng Ngheredigion

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a De Cymru eu galw i dân mewn garej ym Mharc Busnes Llambed, Ceredigion tua 10:00 fore Sul.

Dywedodd y gwasanaeth tân fod adeilad a garej wedi cael eu heffeithio gan y tân.

Dywedon hefyd fod ceir tu fewn a thu allan y garej wedi eu heffeithio.

Roedd y gwasanaeth tân yn parhau i fod yno ganol prynhawn Sul.