Lluniau: Dau wanwyn a dau haf ar Ynys Enlli

  • Cyhoeddwyd
Y ffotograffydd Elin GruffyddFfynhonnell y llun, Elin Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Y ffotograffydd Elin Gruffydd

"Mae o'n rwbath sydd yn cael ei ddeud mor aml… ond mae 'na rwbath am y lle... Mae'n tynnu pobl yn ôl."

Mae'r ffotograffydd Elin Gruffydd o Langïan ym Mhen Llŷn wedi rhyddhau casgliad o luniau o Ynys Enlli o'i chyfnodau yn byw yno yn 2021 a 2022.

Mae Dau Wanwyn a Dau Haf yn gofnod o'r ddau dymor a dreuliodd Elin yn gweithio ar yr ynys yn cynorthwyo'r wardeiniaid yn glanhau ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw.

Cymru Fyw fuodd yn holi'r ffotograffydd am yr ysbrydoliaeth gafodd hi gan Enlli yn ystod ei chyfnod yno.

Linebreak

"Ti'm yn mynd yn bored?" Dyna oedd rhan fwyaf o bobl yn holi fi tra oeddwn i yna. 'Dwi ddim yn meddwl fues i'n ddiflas yno unwaith.

Mae hi'n ynys fach ond ti dal yn gallu ffeindio llefydd newydd bob tro ti'n mynd am dro.

Os 'di'r llanw allan ti'n gallu mynd am dro ar hyd y creigiau a dod o hyd i ryw ogof newydd neu rhyw dwnal. Mae hynna yn neis, ti ddim yn diflasu ar y lle, mae 'na ddigon i'w wneud.

LlonyddFfynhonnell y llun, Elin Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Llonydd

Yn wahanol i fywyd ar y tir mawr ti lot fwy in tune efo'r tywydd. Mae be' ti'n gwneud o ddydd i ddydd yn newid yn dibynnu arno fo. Mae 'na gymaint o bethau i'w wneud a gweld a ma' hynny'n newid o wythnos i wythnos.

'Rwbath am y lle'

Mae 'na deimlad hollol wahanol i wahanol rannau o'r ynys. Os ti'n mynd i ben y mynydd a ti'n gweld Pen Llŷn neu'r tir mawr i gyd, ti'n cael dy atgoffa, o ia, dwyt ti ddim yn bell o'r tir mawr... Ond os wyt ti yn y tŷ ti'm yn gweld y tir mawr o gwbl a phan o'n i'n mynd dyddiau yn gwneud hynny ro'n i'n meddwl 'mod i mewn bybl.

Mae o'n rwbath sydd yn cael ei ddeud mor aml… ond mae na rwbath am y lle. Dwi'n cael trafferth ymhelaethu ar hynna achos dwi ddim yn dda efo geiriau. Ond mae 'na rwbath. Mae'n tynnu pobl yn ôl.

Awr Euraidd EnlliFfynhonnell y llun, Elin Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Awr Euraidd Enlli

Ti'n gweld ymwelwyr yn mynd yna am y tro cyntaf, yn darganfod y lle, ac yn disgyn mewn cariad. Mae'n cadarnhau be' ti'n feddwl - mai nid jest chdi 'di o - ond fod y lle yn arbennig go iawn.

'Mynegi sut dwi'n teimlo drwy luniau'

O ran esbonio be' ydi o am y lle… dwi'm yn gallu gwneud hynny efo geiriau felly dwi'n trio mynegi sut dwi'n teimlo am y lle drwy luniau.

Mae tynnu lluniau ffilm yn siwtio'r lle oherwydd mae'r broses - tynnu'r llun, eu gyrru nhw i ffwrdd a'u datblygu nhw, yn arafach - felly mae'n cydfynd.

Coeden FôrFfynhonnell y llun, Elin Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Coeden Fôr

Mae'r pace o fyw yn wahanol yna achos mae'r pethau sylfaenol yn wahanol. Pethau syml fel nôl dŵr. Maen nhw'n bethau bach ond mae'n newid dy ffordd di o feddwl yn y pen draw.

Mae 'na lot o'r lluniau 'bach allan o context ond mae 'na lot sydd falla yn edrych fel dim byd, ond yn hytrach yn awgrym o sut mae bywyd pob dydd yno.

Camgymeriad HarddFfynhonnell y llun, Elin Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Camgymeriad Hardd

'Mae'r gwahaniaeth rhwng y tymhorau yn anhygoel'

Be' sy'n anffodus (neu'n ffodus bron) efo tynnu lluniau ffilm ydi pan ti'n cael dy luniau yn ôl does 'na ddim dyddiad na amser o bryd cafodd nhw eu tynnu.

Mae 'na luniau o ryw storm benodol dwi'n gofio o fis Mawrth a mae'n dod â'r cyfnod yna nôl yn fyw.

Mae'r gwahaniaeth rhwng y tymhorau yn anhygoel… Er enghraifft pan ti'n cymharu mis Mawrth a Hydref efo mis Mehefin mae'r gwahaniaeth yn hollol wallgo' a dwi'n medddwl 'mod i wedi sylwi lot mwy ar hynna ar Ynys Enlli na fyswn i wedi adra.

Tonnau Pen DibanFfynhonnell y llun, Elin Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Tonnau Pen Diban

Ti'n gorfod cymryd lot fwy o sylw o'r tywydd achos mae o reit basic. Os 'di'r tywydd ddim yn brafio, does 'na ddim cwch, felly mae'r tywydd yn ffactor mor fawr a ti'n sylwi ar hynny.

'Rwbath dwi'n fethu'

Mae gen ti'r adar môr i gyd yn dod yn ôl ddechrau'r gwanwyn - y Drycin Manaw a ballu. Ti'n sylwi lot mwy ar ba adeg o'r flwyddyn ydi hi wrth i chdi edrych ar be' sydd o dy gwmpas.

O gwmpas diwedd yr haf - Medi a Hydref - mae'r morloi yn geni a mae'r ynys yn newid eto ac mae'r lloi i gyd ar hyd yr arfodir. Adeg hynny ti methu mynd lawr i rwla ti isio i nofio, mae'r morloi wedi cymryd drosodd a nhw sydd gan yr hawl.

Llanw MawrFfynhonnell y llun, Elin Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Llanw Mawr

Mae natur yna yn newid o fis i fis ac o flwyddyn i flwyddyn a phan es i yna'r ail dro ro'n i'n cofio'r patrwm o'r flwyddyn gyntaf. Mae 'na rwbath reit comforting yn hynna, fod 'na rhyw fath o routine.

Roedd o'n ddiddorol bod yn lot fwy in tune efo'r golau - pryd ma' hi'n gwawrio, pryd ma' hi'n machlud - ac mae hynny'n rwbath dwi'n fethu.

Hefyd o ddiddordeb: