Gwersi Esperanto Ysgol Deiniol

Mae wythnos gyntaf mis Medi wastad yn gyfnod cyffrous i ddisgyblion Cymru, wrth i ddrysau'r ysgolion agor am dymor newydd sbon.

Mae sawl pwnc diddorol bellach ar y cwricwlwm cenedlaethol, ond go brin y bydd disgyblion Cymru yn mynychu gwersi Esperanto yr wythnos hon.

Dyna oedd y drefn yn Ysgol Deiniol, Bangor yn 1970, sef yr unig ysgol yng Nghymru bryd hynny i gynnal gwersi Esperanto yn ystod oriau ysgol, gyda llond llaw o rai eraill yn cynnig cyrsiau ar ôl i'r ysgol gau.

Iaith wneud rynwgwadol yw Esperanto gafodd ei chreu yn 1887.

Nod Dr Ludwik Zamhenof - y dyfeisiwr o Wlad Pwyl - oedd creu iaith ryngwladol fyddai'n "ail iaith i bawb" ac yn "hawdd i'w dysgu".

Dyma gipolwg ar wers Hilda Tharme a disgyblion Ysgol Deiniol, Bangor yn 1970.