'Roedd Gareth Miles eisiau dangos Cymru i'r byd'
Yn dilyn marwolaeth sylfaenydd Cymdeithas yr Iaith, Gareth Miles, yn 85 oed, dywedodd cyd-undebwr iddo, Meic Birtwistle, ei fod yn ddyn "mor eang ei ddiddordebau".
Daeth i adnabod Gareth Miles fel swyddogion o'r un grŵp o undebau llafur, a diddordeb a chefnogaeth i wleidyddiaeth adain chwith.
"Mae Gareth wedi bod yn gymaint o ffigwr canolog o ran gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru a thu hwnt," meddai.
"Yn ei waith fel awdur, gwleidydd ac undebwr 'oedd e am ddangos Cymru i'r byd a'r byd i Gymru."