
Bu farw Jessica Baker ar ôl i fws droi drosodd ar yr M53 yng Nghilgwri ddydd Gwener
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ferch fu farw ar ôl i fws droi drosodd ar yr M53 yng Nghilgwri.
Roedd Jessica Baker yn ddringwr brwdfrydig ac wedi cynrychioli Cymru yn y gamp.
Dywedodd ei theulu ei bod yn "fendigedig a chalon gynnes ganddi".
Ychwanegon nhw bod "ei marwolaeth wedi gadael bwlch enfawr yn ein bywydau na chaiff fyth ei lenwi".
Cafodd Jessica a'r gyrrwr Stephen Shrimpton, 40, eu lladd pan darodd y bws yn erbyn y llain ganol ar draffordd yr M53 ar gyrion Hooton ddydd Gwener 29 Medi.

Roess Jessica wedi cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau dringo
Disgrifiodd Simeon Clarke, pennaeth ei hysgol, West Kirby Grammar, fel disgybl "diymhongar, cwrtais a chydwybodol".
Dywedodd ei bod hi wrth ei bodd yn gwneud chwaraeon a'i bod wedi cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau dringo.
Dywedodd clwb dringo Jessica, Boardroom Climbing yng Nglannau Dyfrdwy, eu bod yn "dorcalonnus" ar ôl derbyn y newyddion.
"Roedd Jessica yn aelod gwerthfawr o'n cymuned ddringo, gan dreulio ei hamser sbâr yn dringo a chystadlu," meddai'r clwb mewn datganiad.
"Roedd ei phenderfynoldeb, ymroddiad ac angerdd am y gamp roedd hi'n ei charu yn golygu ei bod hi'n aml ar y podiwm mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol."
"Roedd Jessica nid yn unig yn ddringwr addawol ond yn fenyw ifanc arbennig oedd yn cyffwrdd calonnau pawb roedd hi'n eu cyfarfod - esiampl wych i'r dringwyr ifanc ac ysbrydoliaeth i ni gyd."

Mae ysgol Jessica Baker wedi creu coeden i arddangos teyrngedau iddi
Roedd hi hefyd, yn ôl ei theulu, yn helpu i hyfforddi dringwyr eraill ac y byddai "nifer yn y gymuned ddringo ar draws y wlad yn gweld ei cholli".
Roedd y bws yn cludo dros 50 o fyfyrwyr sydd yn astudio yn ysgolion West Kirby Grammar a Calday Grange Grammar pan ddigwyddodd y ddamwain tua wyth o'r gloch fore Gwener.
Mae pedwar o'r teithwyr mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty tra cafodd 13 arall fân anafiadau.
Dywedodd yr heddlu y bydd archwiliadau post-mortem yn cael eu cynnal i sefydlu sut y bu farw Jessica Baker a Stephen Shrimpton.