Gaza: Cannoedd yng Nghaerdydd yn galw am gadoediad

Yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn fe wnaeth oddeutu 750 o bobl orymdeithio ar hyd y strydoedd yn galw am gadoediad yn y Dwyrain Canol.

Yn y cyfamser mae ysgol yn Gaza wedi ei thargedu gan ymosodiad o'r awyr, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.

Mae gweinyddiaeth iechyd Hamas yn dweud bod pymtheg o bobl wedi eu lladd, tra bod milwyr Israel yn dweud eu bod yn ymchwilio.

Adroddiad Lleu Bleddyn.