Dyn mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid dargyfeirio traffig wedi'r gwrthdrawiad

Mae dyn yn cael triniaeth yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd wedi gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 fore Sul.

Dywed plismyn ei fod wedi cael anafiadau sy'n peryglu ei fywyd.

Bu'n rhaid cau y draffordd i'r ddau gyfeiriad am gyfnod rhwng cyffyrdd 45 a 46 ger Abertawe wedi'r hyn a alwyd gan yr heddlu yn "wrthdrawiad difrifol".

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi'u galw i'r safle rhwng cyffyrdd Ynysforgan a Llangyfelach am 06:35 a'u bod wedi anfon dau ambiwlans.