Eisteddfod Ffermwyr Ifanc ym Môn yn mynd i fod yn 'wledd'

Bydd pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn heidio i Ynys Môn ar gyfer Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru ddydd Sadwrn.

Dyma'r tro cyntaf ers degawd i'r eisteddfod ymweld â'r Ynys, ond mae cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn dweud bod prisiau cynnal y digwyddiad wedi 'dyblu' o'i gymharu â degawd yn ôl.

Ond er y gost, dywedodd Gwen Edwards: "Mi ydan ni i gyd yn edrych ymlaen gymaint, a dwi'n meddwl bod o'n arbennig ein bod ni'n gallu cynnig gwledd ar yr ynys i bawb gael gweld."

Darllenwch y stori'n llawn: Prisiau wedi 'dyblu mewn degawd' i steddfod ym Môn