
Dywedodd gwraig Stephen Bell ei fod yn ŵr a thad "arbennig"
Mae cyngor wedi cael dirwy o £2m ar ôl i un o'u gweithwyr farw wedi iddo gael ei daro gan dractor.
Roedd Stephen Bell, 57, yn ailosod wyneb ffordd yng Nghasnewydd - a hynny o gefn lori arllwys - pan gafodd ei daro ar 18 Gorffennaf 2019.
Fe wnaeth y cyngor gyfaddef eu bod wedi mynd yn groes i'r ddeddf iechyd a diogelwch yn y gwaith ac maen nhw wedi ymddiheuro i deulu Mr Bell.
Maen nhw wedi cael gorchymyn i dalu £2m yn ogystal â gwerth £9,780 mewn costau.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd Langstone Court, sy'n rhedeg dan draffordd yr M4.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod gan Mr Bell a phedwar o aelodau staff Cyngor Casnewydd, gan gynnwys arweinydd tîm, awdurdod i fod ar y safle ar y pryd.
Ond daeth ymchwiliad y Gweithgor Iechyd a Diogelwch i'r casgliad nad oedd y cyngor wedi cymryd y camau ymarferol disgwyliedig er mwyn sicrhau bod y safle yn ddiogel.
Maen nhw'n nodi y dylid fod wedi sicrhau bod ardal diogelwch o faint digonol rhwng y man gweithio a'r rhan o'r lôn oedd yn dal ar agor.

Mae ffordd Langstone Court yn rhedeg dan draffordd yr M4
Fe blediodd Cyngor Casnewydd yn euog i fynd yn groes i'r ddeddf iechyd a diogelwch yn y gwaith.
Dywedodd Phillip Nicolle, un o ymchwilwyr y Gweithgor Iechyd a Diogelwch: "Mae methiannau'r cyngor wedi cael effaith ofnadwy ar deulu Stephen Bell.
"Byddai wedi bod modd i osgoi'r digwyddiad trasig yma pe bai'r cyngor wedi cymryd camau syml i sicrhau bod mesurau diogelwch yn cael eu gweithredu."
'Dysgu gwersi'
Dywedodd Cyngor Casnewydd mewn datganiad eu bod yn "ymddiheuro o waelod calon" am farwolaeth Mr Bell, gan ychwanegu ei fod "yn aelod gwerthfawr o'r tîm".
"Mae'r cyngor yn cymryd ein dyletswyddau iechyd a diogelwch o ddifrif pob tro. Fe bledion ni'n euog ar y cyfle cyntaf.
"Roedd polisïau, mesurau a hyfforddiant mewn lle pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, ond mae adolygiadau manwl wedi eu cynnal ers y digwyddiad.
"Bellach, mae mwy o adnoddau iechyd a diogelwch ar gael, mae mesurau wedi cael eu cryfhau ac mae mwy o hyfforddiant ar gael hefyd.
"Mae'r cyngor wedi dysgu gwersi wedi'r digwyddiad trasig yma, ac wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw hyn yn gallu digwydd eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2019
