Staff gwasanaeth ambiwlans 'wedi mynd lot prysurach'

"Dwi'n cofio'r amser pan nes i ddechrau yn y gwasanaeth - 19 mlynedd yn ôl - pan oedd wastad ambiwlans ar gael i fynd i alwadau drwg.

"Dros y blynyddoedd 'da ni 'di mynd lot prysurach."

Mae staff y gwasanaeth ambiwlans wedi sôn wrth BBC Cymru am y "gofid" a'r "tristwch" o orfod gofyn i deuluoedd, neu hyd yn oed gwmnïau tacsis, drosglwyddo cleifion sy'n ddifrifol wael i'r ysbyty.

Mae un uwch-barafeddyg hefyd wedi rhybuddio bod yna adegau pan nad oes yr un ambiwlans yn rhydd yng ngogledd Cymru i ymateb i alwadau newydd gan fod cymaint o griwiau yn sownd tu fas i unedau brys.

Dywedodd yr uwch-barafeddyg Aled Williams: "Ar y diwrnodau gwaethaf efallai allwch chi gael bron iawn pob ambiwlans sydd ar gael ar y diwrnod yn aros y tu allan i ysbytai, neu eisoes yn trin cleifion.

"Ar y dyddiau hynny does unrhyw ambiwlans i gael i fynd i unrhyw glaf yn y gogledd."

Ychwanegodd: "'Dan ni o hyd yn trïo'n gorau i gyrraedd cleifion, ond yn aml iawn y peth cynta' 'dan ni'n gorfod gwneud pan 'dan ni'n cyrraedd ydi ymddiheuro i gleifion am ba mor hir maen nhw wedi aros.

"Beth yw'r ateb? No idea!"