
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau cynnydd treth cyngor o 9.34% o fis Ebrill.
Mae adroddiadau ariannol cynharach yn awgrymu bod Sir Ddinbych yn wynebu diffyg o tua £25m.
Mae'r cabinet eisoes yn ceisio lleihau oriau llyfrgell y sir o 40%.
Bydd y codiad diweddaraf yn cynnwys cynnydd o 8.23% a osodwyd gan y cyngor ei hun a chynnydd ychwanegol o 1.11% ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, nad oes gan Sir Ddinbych unrhyw reolaeth drosto.
Cyn cyfarfod y cabinet ddydd Mawrth, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Jason McLellan, fod cynghorau yng Nghymru yn wynebu "heriau eithafol", gyda chyllideb Cymru "£1.3 biliwn yn llai mewn termau real nag yr oedd yn 2021".
"Mae trigolion angen bod yn ymwybodol fod y cynnydd yma yn uchel - does dim osgoi'r ffaith yma," meddai.
"Y flwyddyn ddiwethaf, Sir Ddinbych gafodd y cynnydd isaf mewn treth cyngor yng ngogledd Cymru. Bydd cynghorau eraill o dan bwysau tebyg i ni."
Dywedodd fod y cynnydd yn "sicrhau fod addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu gwarchod cymaint ag sy'n bosib".
Mae'r cyngor yn derbyn y setliad llywodraeth leol uchaf yng ngogledd Cymru o 3.7% - gyda siroedd agos Conwy a Gwynedd yn derbyn y cynnydd isaf yng Nghymru o 2%.
Cyn i'r cynnydd gael ei gytuno gan y cabinet, dywedodd y cynghorydd Ceidwadol Brian Jones, sy'n cynrychioli Y Rhyl, fod y sefyllfa'n dangos "camreolaeth ariannol".
"Bydd cynnydd o'r swm hwn yn y dreth gyngor yn cael effaith andwyol ar gostau byw pobl o ddydd i ddydd, ac yn anochel bydd yn effeithio ar y rhai lleiaf eu byd mewn cymdeithas," meddai'r Cynghorydd Jones.
"Y cwestiwn y byddwn yn ei ofyn yw a fydd y cynnydd hwn yn datrys holl bwysau ariannol Cyngor Sir Ddinbych? Nid yw cynghorwyr fel fi wedi cael y manylion hynny eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023

- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023
