Griffith Davies: Y chwarelwr tlawd ddaeth yn fathemategwr o fri

  • Cyhoeddwyd
Portread o Griffith DaviesFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Portread o Griffith Davies

Chwarelwr gafodd ei eni i dlodi, darganfod dawn mewn mathemateg, cyn addysgu ei hun a symud i Lundain lle daeth yn ffigwr llwyddiannus ym myd ariannol yr 1800au. Mae bywyd Griffith Davies yn swnio fel nofel dda, ond tan yn ddiweddar ychydig o wybodaeth oedd ar gael am hanes ei fywyd a'i waith.

Nawr mae llyfr gan Haydn E Edwards yn taflu goleuni newydd ar y ffigwr dylanwadol a gyrhaeddodd uchelfannau'r proffesiwn actiwari oedd yn datblygu yn Llundain. Yma mae'r awdur yn sôn mwy am y gŵr dawnus a chymwynasgar hwn.

line

Ganwyd un o brif fathemategwyr Cymru mewn tyddyn bychan ar fferm Hafod Boeth, ym mhlwyf Llandwrog ger Caernarfon, yn 1788.

Roedd Griffith Davies yn un o chwech o blant. Cael ei fagu a gweithio ar y tir mewn byd di-ysgol a thlodi eithriadol oedd ei dynged fel plentyn. Yna yn 14 oed, dilyn ei dad a'i frawd i chwarel y Cilgwyn i gloddio am lechi - gwaith caled ym mhob tywydd.

Llun o adfeilion yn fferm Hafod BoethFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Llun o adfeilion yn fferm Hafod Boeth, plwyf Llandwrog - ardal y Groeslon heddiw, ble roedd Tŷ Croes, cartref Griffith Davies

Dysgodd ddarllen Cymraeg yn Ysgol Sul Capel Brynrodyn a chasglodd ddigon o arian i gael tri mis o ysgol yng Nghaernarfon yn 17 oed.

Hwylio i Lundain

Yno y sylweddolwyd fod ganddo allu eithriadol mewn mathemateg ond roedd yr arian wedi rhedeg allan ac roedd yn rhaid iddo fynd yn ôl i'r chwarel. Ymhen ychydig flynyddoedd penderfynodd, yn groes i farn ei rieni, fynd i Lundain er mwyn dysgu Saesneg a chael gwaith mwy cydnaws â'i allu.

Yn 1809 hwyliodd mewn llong lechi o Gaernarfon i Lundain - taith naw diwrnod - a chafodd aros ar y llong tra roedd y criw yn dadlwytho.

Roedd ei brofiadau cyntaf yn Llundain yn hunllefus; cafodd ei dwyllo nifer o weithiau a chael a chael oedd i'r pressgang gael gafael arno.

Ar ôl wythnosau anodd cafodd waith fel tywysydd mewn ysgol a chyn hir y cyfle i ddysgu mathemateg i'r disgyblion. Ymunodd â Chymdeithas Fathemategol gan ddefnyddio'r llyfrau a'r adnoddau eraill yno i hunan-addysgu.

Yr awdur yn storfeydd yr Amgueddfa Genedlaethol gyda portread o Griffith DaviesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Haydn E Edwards, awdur Griffith Davies - Arloeswr a chymwynaswr, yn storfeydd yr Amgueddfa Genedlaethol gyda phortread o Griffith Davies

Ymhen ychydig flynyddoedd roedd wedi agor ei ysgol ei hun i ddysgu mathemateg ac wedi cyhoeddi llyfr ar agweddau o drigonometreg. Roedd hyn yn dipyn o gamp o ystyried mai prin oedd ei ddealltwriaeth o fathemateg a Saesneg cyn cyrraedd Llundain.

Canlyniad cyhoeddi'r llyfr oedd bod galw cynyddol am ei wasanaeth fel athro a dechreuodd ddysgu mathemateg yswiriant bywyd gyda llawer o'r disgyblion yn mynd ymlaen i swyddi bras gyda chwmnïau yswiriant yn ninas Llundain.

Gyrfa lwyddiannus

Ymhen ychydig flynyddoedd penodwyd Griffith Davies ei hun yn actiwari i gwmni'r Guardian, â'i sgiliau mathemategol a'i ddealltwriaeth o'r maes yn ei roi ar y blaen i bob ymgeisydd arall. Cafodd yrfa lwyddiannus gyda'r Guardian a'i enw da yn golygu fod Banc Lloegr a Chwmni Dwyrain yr India ar ei ofyn yn aml i roi barn am bolisïau buddsoddi a chyflwr eu cynlluniau pensiwn.

Cartref Griffith Davies yn Duncan Terrace Islington fel y mae heddiwFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cartref Griffith Davies yn Duncan Terrace, Islington, Llundain, fel y mae heddiw - dipyn o wahaniaeth â'r tyddyn lle cafodd ei fagu

Erbyn 1831 roedd Griffith Davies wedi ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol - yr FRS - ac yno roedd mewn cysylltiad gyda phrif fathemategwyr a gwyddonwyr y cyfnod. Cyflwynodd ei lyfr diweddaraf ar fathemateg y byd actiwari i'r Gymdeithas Frenhinol.

Sylweddolodd fod angen i'r proffesiwn actiwari gael corff proffesiynol i osod safon a threfn i'w gwaith. Arweiniodd weithgorau a phwyllgorau i baratoi ar gyfer corff newydd ac yn 1848 - 175 mlynedd i eleni - ffurfiwyd The Institute of Actuaries.

Griffith Davies oedd enwebiad pob cwmni yswiriant i fod y llywydd cyntaf ond gwrthododd yr anrhydedd oherwydd cyflwr ei iechyd gan gynnig person arall i'r swydd. Gweithred egwyddorol a theg oedd mor nodweddiadol ohono.

Lyfr The Table of Life Contingencies, gan Griffith Davies; y llyfr newydd am fywyd Griffith DaviesFfynhonnell y llun, InstituteandFacultyofActuaries/GwasgPrifysgolCymru
Disgrifiad o’r llun,

Llyfr The Table of Life Contingencies, gan Griffith Davies, sy'n cael ei gadw yn archifdy The Institute and Faculty of Actuaries, Staple Inn, Llundain; y llyfr newydd am fywyd Griffith Davies

Nid un i gyfyngu ei hun i'r byd yswiriant a mathemateg oedd Griffith Davies. Roedd yn weithgar gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn aelod ffyddlon yn Jewin Crescent ac yn nes ymlaen yng Nghapel Jewin.

Bu hefyd yn weithgar ym myd addysg, yn sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg yng nghyfarfodydd Cymreigyddion Caerludd.

Dyma'r dystiolaeth gyntaf o drin a thrafod gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg - hyn yn Llundain yn yr 1830au. Bu hefyd yn gymorth i nifer o Gymry oedd wedi symud i'r ddinas i gael gwaith - yn eu mysg John William Thomas (Arfonwyson) a Hugh Owen (Syr yn nes ymlaen).

Bedd Griffith Davies ym mynwent Abney Park, LlundainFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bedd Griffith Davies, fu farw yn 1855, ym mynwent Abney Park. Dyma hen fynwent yr anghydffurfwyr yng ngogledd Llundain lle mae llawer iawn o Gymry wedi eu claddu. Mae'r safle bellach yn warchodfa natur

Bu Griffith Davies yn driw iawn i Gymru a'r Gymraeg drwy gydol ei fywyd. Bu o gymorth i sefydlu nifer o gymdeithasau cyfeillgar oedd yn rhoi cymorth i'w haelodau mewn gwaeledd neu farwolaeth - hyn eto yn wasanaeth pwysig cyn dyfodiad y wladwriaeth les.

Arweiniodd ymgyrch lwyddiannus hefyd ar ran tyddynwyr plwyfi Llandwrog a Llanwnda i wrthwynebu mesur seneddol i gau tir comin. Yr aelod seneddol lleol yr Arglwydd Newborough o stad Glynllifon oedd wedi cyflwyno'r mesur. Bu ymgyrchu brwd yn Llundain gan ddenu cefnogaeth o bob rhan o'r wlad.

Tynnwyd y mesur yn ôl, a oedd yn fuddugoliaeth brin i werin gwlad yn y cyfnod.