Opera roc 'eiconig' Nia Ben Aur yn dychwelyd i'r Eisteddfod

Nid yw'r cynnwys yma ar gael yn eich lleoliad chi.

Mae yna broblem

Bydd fersiwn newydd sbon o'r opera roc Nia Ben Aur i'w gweld ar lwyfan y Pafiliwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.

Bydd hynny'n nodi union 50 mlynedd ers y perfformiad cyntaf yn Eisteddfod Caerfyrddin, 1974.

Nia Ben Aur oedd yr opera roc gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg.

Bu un o arweinwyr y Côr yr Eisteddfod, Osian Rowlands, yn trafod y paratoadau ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth.