Bodffordd: 'Disgynnodd awyren fel bricsan i'r llawr'

Mae rhai o drigolion pentref yn Ynys Môn wedi disgrifio'r braw o weld awyren ysgafn yn hedfan yn isel dros stad o dai cyn lanio ar goed yng ngardd un o'r tai.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i stad Cae Bach Aur ym Modffordd cyn 14:00 brynhawn Sadwrn wedi i'r awyren fechan gwympo.

Cafodd y peilot - yr unig berson yn yr awyren - ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans ond dyw ei anafiadau ddim yn rhai sy'n peryglu bywyd. Chafodd neb arall anaf.

Roedd Arwel Jones a Rees Roberts yn dyst i'r digwyddiad.