
Mae Rob Havelock wedi sefydlu grŵp 'Sober Snowdonia' i cynnig cymorth i bobl sy'n gwella o ddibyniaeth
Yn ddi-gartref, yn ddi-waith ac yn gaeth i alcohol a chyffuriau, mi oedd Rob Havelock, 39 o Borthmadog, wedi colli pob gobaith.
Ond ag yntau rŵan flwyddyn yn sobor, mae'n dweud bod mynyddoedd Eryri wedi rhoi cyfle arall iddo fwynhau bywyd.
Ar ôl symud yn ôl o Fanceinion i Gymru er mwyn derbyn cymorth, mae o rŵan yn annog eraill i wneud yn fawr o'r budd a ddaw yn sgil y Parc Cenedlaethol gan sefydlu grŵp cerdded arbennig i rheiny sy'n gwella o ddibyniaeth.
Yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri mae stori Rob yn brawf o lwyddiant llesol bywyd natur Eryri.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn blaenoraethu buddiannau iechyd yr awyr agored
Dywedodd Rob fod ei broblemau gyda chyffuriau ac alcohol wedi dechrau 20 mlynedd yn ôl, ond bod ei ddibyniaeth wedi gwaethygu pum mlynedd yn ôl wrth fyw ym Manceinion.
"Mi o'n i'n unig efo ddim llawer yn mynd ymlaen yn fy mywyd," meddai.
"O'n i wedi brifo pawb oedd yn bwysig i mi, pawb o'n i'n caru... o'n i'n ddigartref ac yn ddi-waith a dim llawer o obaith."
Dywedodd mai alcohol a chyffuriau oedd yn rheoli ei fywyd.
"O'n i'n dibynnu arnyn nhw i fyw, yr unig beth o'n i'n codi allan o 'ngwely am - mi a'th fy mhriodas lawr y draen a doedd gennai'm llawer o ddewis ond symud yn ôl i Gymru."
'Amser i helpu pobl eraill'
Pan ddaeth yn ôl i fyw i ogledd Cymru fe ddechreuodd dderbyn help gan dîm Penrhyn House ym Mangor - sy'n helpu pobl sy'n gaeth i sylweddau dan gynllun North Wales Recovery Communities.
"Dyma sut nesh i ddarganfod y mynyddoedd, er bod nhw reit o mlaen i am yr holl flynyddoedd, ond gesh i gynnig mynd fyny'r Wyddfa drwy Penrhyn House a nesh i ddisgyn mewn cariad."

Mae Rob wedi dathlu blwyddyn heb alcohol a chyffuriau, ar ôl bod yn gaeth am dros 20 mlynedd
Dechreuodd Rob gerdded mynyddoedd Eryri yn rheolaidd ac, ochr yn ochr â'r cymorth ym Mangor, fe sylwodd ar rym byd natur a'r effaith ar ei iechyd meddwl.
Mae o bellach wedi sefydlu grŵp 'Sober Snowdonia', grŵp cerdded i bobl sy'n gwella o ddibyniaeth.
Er bod y grŵp yn weddol newydd mae'n dweud fod yr ymateb wedi bod "yn anhygoel".
"Nesh i just dechrau meddwl, 'ti di cael hyder trwy gerdded y mynyddoedd yn Eryri', pam cadw o i fy hun - mae'n amser i helpu pobl eraill."

Er bod y grŵp eithaf newydd, mae'r ymateb wedi bod yn "anhygoel" yn ôl Rob
Un o flaenoriaethau Parc Cenedlaethol Eryri ydy hyrwyddo buddiannau'r ardal mewn cyd-destun iechyd a lles, a'r parc yn dweud fod stori Rob a'i grŵp yn ysbrydoledig.
"Mae pobl leol a grwpiau fel Rob yn bwysig, mae'r adnodd yn bwysig," meddai Peter Rutherford, Rheolwr Mynediad, Iechyd a Lles Parc Cenedlaethol Eryri.
"Dwi'n edmygu pobl sy'n wynebu pethau fel hyn yn dod allan mewn grwpiau."
"Mae'n hynod bwysig inni fod ni'n gallu sicrhau fod yr adnodd yna iddyn nhw ei ddefnyddio," meddai.
Fe ddaw sefydlu'r grŵp ar gyfnod tyngedfennol i Rob - sydd newydd gyrraedd blwyddyn heb alcohol na chyffuriau.
"Ma'n grêt o deimlad a rŵan helpu pobl ffeindio Eryri hefyd, ma'n endless dydi be elli di gael a ma' reit ar y stepen drws ac am ddim!"
Gyda chymaint o ddiddordeb mae'n dweud mai'r gobaith ydy cynnal un daith y mis ac yn annog unrhyw sydd â dibyniaeth i gysylltu.Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi peri gofid mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2024

- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2023

- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2023
