Côr Meibion Trelawnyd: Cofio am Ednyfed Williams

Cymeriad, bonheddwr a baswr heb ei ail.

Dyma'r ychydig eiriau sy'n cael eu hail adrodd gan aelodau o Gôr Meibion Trelawnyd i ddisgrifio Ednyfed Williams.

Yn 96 oed bu farw Mr Williams gan adael sedd wag yng nghanol aelodau un o gorau enwocaf Cymru.

Ond mae colli rhywun fel Ednyfed Williams yn fwy na colli dim ond llais, roedd ei gwmniaeth a'i frwdfrydedd at y côr yn anhygoel.

Dyma gyfweliad a wnaeth gyda rhaglen Newyddion S4C yn 2021.