Heddlu'n ymchwilio ar ôl torri camera cyflymder i lawr

Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i fideo ymddangos ar-lein yn dangos pobl yn torri camera cyflymder i lawr.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ar Heol Llangyfelach yn Nhreboeth, Abertawe.

Maen nhw'n apelio am wybodaeth am y digwyddiad ar 7 Mai gan y cyhoedd.

Dywedodd Cyngor Abertawe bod gan gamerâu cyflymder rôl bwysig mewn taclo goryrru, gan annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y "fandaliaeth ddisynnwyr" i gysylltu gyda'r awdurdodau.