Snwcer: Buddugoliaeth wych i Day
- Cyhoeddwyd

Daeth Ryan Day yn gyfartal ar 9-9 cyn ennill y ffrâm olaf.
Cafodd y Cymro Ryan Day fuddugoliaeth ddramatig yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield yn erbyn Ding Junhui o China.
Roedd Day ar ei hôl hi gydol y gêm bron er iddo ddechrau'r diwrnod 5-4 ar y blaen, ac roedd Ding 9-7 ar y blaen ac angen un ffrâm arall i fynd i'r ail rownd.
Ond wedi hynny llwyddodd Day i ddod yn gyfartal 9-9 gan orfodi ffrâm olaf llawn tyndra yn Theatr y Crucible.
Er i Ding gael rhediad o 48 yn y ffrâm yna, methodd â suddo coch, ac fe fanteisiodd Day i'r eithaf gyda rhediad o 64 i gipio'r ffrâm a'i le yn yr ail rownd.
Cao Yupeng, hefyd o China, fydd ei wrthwynebydd yn y rownd honno.
Brynhawn Mercher, bydd Dominic Dale yn gorffen ei ornest yn erbyn Judd Trump o Loegr a Mark Williams yn dechrau ei gêm yn erbyn Liu Chuang sydd hefyd o China.
Eisoes mae dau o Gymry, Matthew Stevens a Jamie Jones, wedi sicrhau eu lle yn yr Ail Rownd ar ôl ennill yn erbyn Marco Fu a Stephen Maguire ddydd Llun.
Bydd Stevens yn chwarae yn erbyn enillydd yr ornest rhwng Mark Selby a Barry Hawkins ac fe fydd Jones yn chwarae yn erbyn Andrew Higginson wedi i hwnnw guro Stephen Lee 10-6 nos Fawrth.
Bydd y ddwy gêm yn cael eu cynnal ar Ebrill 29 a 30.
Canlyniadau dydd Mercher Ebrill 25:
Rownd 1 (Sesiwn 2)
Ding Junhui 9-10 Ryan Day
69-39, 27-106, 79-0, 8-78 (77), 100-0 (100), 21-76, 7-75, 46-66, 76-4 (53), 28-74 (70), 92-14, 20-68 (52), 126-0 (69), 68-20 (56), 21-64, 81-17 (57), 22-79 (79), 30-65, 48-74 (64)
Judd Trump 5-4 Dominic Dale
57-59, 85-0 (57), 16-89 (59), 33-76 (75), 69-37 (54), 66-31 (54), 28-76 (68), 74-7, 121-1 (53, 68)
*Fe fydd y gêm yn ail ddechrau am 2.30pm ddydd Mercher.
Mark Williams v. Liu Chuang
Y gêm i ddechrau am 2:30pm ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2012

- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2012

- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2012

- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2012

- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2012
