Llai yn marw oherwydd cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Yn 2011 bu farw 110 o ddynion a 27 o ferched oherwydd y camddefnydd o gyffuriau
Mae nifer y marwolaethau oherwydd y camddefnydd o gyffuriau yng Nghymru yn 2011 wedi gostwng yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.
Ond mae'r tueddiad cyffredinol wedi dangos cynnydd yn nifer y marwolaethau dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Y llynedd fe wnaeth 137 o bobl farw o gymharu â 152 yn 2010.
Ond mae'r ffigyrau ar gyfer 1993 yn nodi 33 o farwolaethau ac 89 yn 2005.
Yng Nghymru mae'r nifer uchaf o farwolaethau o gymharu â phob rhanbarth yn Lloegr yn ôl yr ystadegau.
'Edrych yn bositif'
Dywedodd Ifor Williams, Prif Weithredwr Cynllun Cyffuriau Abertawe, bod y ffigyrau diweddara yn galonogol.
"Mae'n dangos bod addysg a chynlluniau cyffuriau yn gweithio.
"Dwi'n credu bod hi'n bwysig edrych ar y positif yn hytrach nag edrych ar yr 20 mlynedd diwethaf."
Dywedodd bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diweddar i'w ganmol, a bod defnyddwyr cyffuriau wedi medru cario'r gwrthwenwyn naloxone.
Mae hwnnw'n gweithio drwy atal effaith cyffur cysglyn fel heroin dros dro fel y gall wyrdroi effeithiau gorddos gan roi cyfle i'r defnyddiwr alw'r gwasanaethau brys am gymorth a thriniaeth.
"Rydym wedi bod yn annog atal gorddos gyda'n cleientau," medd Mr Williams.
"Does dim tystiolaeth i ddangos bod llai o bobl yn cymryd cyffuriau, ond maen nhw'n dangos bod addysg yn cael effaith."