Llygredd: Asiantaeth yn ymchwilio Afon Clydach
- Cyhoeddwyd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn ymchwilio ar ôl adroddiadau bod rhan o Afon Clydach wedi ei llygru.
Mae swyddogion yr asiantaeth yn archwilio'r afon rhwng Bryn-coch ac Aber Castell-nedd ac yn asesu effaith y llygredd ar bysgod yn yr afon ac ansawdd y dŵr.
Dywedodd yr asiantaeth fod rhan o'r afon wedi newid lliw i lwyd oherwydd presenoldeb darnau o sylwedd solet yn y dŵr.
Nid yw'r swyddogion wedi gweld unrhyw bysgodyn sydd wedi ei effeithio gan y llygredd hyd yn hyn, meddai llefarydd ar ran yr asiantaeth.
"Ond fe fyddwn ni'n parhau i arolygu'r afon tan i ni ganfod beth achosodd y llygredd," meddai.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad hwn gysylltu â'r asiantaeth ar 0800 80 70 60.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2011

Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol