Rheithgor yn ymweld â chartref Mark Bridger
- Cyhoeddwyd

Aelodau'r rheithgor yn cyrraedd cartre' Mark Bridger yng Ngheinws, Powys
Mae rheithgor yn achos llofruddiaeth April Jones wedi ymweld â chartref y dyn sydd wedi'i gyhuddo o'i llofruddio.
Mae Mark Bridger, 47, yn gwadu cipio a llofruddio'r ferch bump oed, a ddiflannodd wrth iddi chwarae ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1, 2012.
Ddydd Iau cafodd aelodau'r rheithgor weld y prif leoliadau'n ymwneud â'r achos.
Gwaed
Mae'r erlyniad wedi dweud wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug fod canlyniadau profion yn dangos bod gwaed April wedi ei ganfod yng nghartref Mr Bridger.
Fe dreuliodd y rheithgor ddwy awr a hanner yn ardal Machynlleth tan 2pm.
Amser cinio ddydd Iau fe aeth aelodau o'r rheithgor i dŷ'r diffynnydd a mynd i mewn fesul pedwar.
Roedd hi'n awyr las a heulwen pan gyrhaeddodd y rheithgor dref Machynlleth ac roedd rhubanau pinc a osodwyd i nodi diflaniad April yn dal o gwmpas y dref.
Aeth y rheithgor i ysgol April yn gyntaf, Ysgol Gynradd Machynlleth, ar gyrion stad Bryn-y-gog ble roedd April yn byw.

Lluniau'r heddlu o du mewn cartre' Mark Bridger
Wedyn cawson nhw eu hebrwng o gwmpas y stad gan yr heddlu, gyda swyddogion yn atal traffig rhag mynd i'r ardal ble roedden nhw.
Yna fe gerddon nhw o'r ysgol i'r stad, cyn ymweld â chartref Mr Bridger.
Roedd disgwyl iddynt hefyd fynd i ganol y dref.
Ddydd Mercher honnodd yr erlyniad fod Mr Bridger wedi llosgi tystiolaeth ac wedi glanhau'r tŷ yn drylwyr.
DNA
Ond clywodd y llys fod olion gwaed mewn gwahanol leoliadau yng nghartref Mr Bridger yn cyfateb i DNA April.
Dywedodd Elwen Evans QC fod yr erlyniad yn cyfeirio at siawns un mewn biliwn bod y gwaed yn cyfateb, a bod hynny'n "golygu mewn gwirionedd mai gwaed April oedd o".
Ac roedd "awgrym cryf" fod olion esgyrn a ganfuwyd yng nghartref Mr Bridger wedi dod o benglog dynol, meddai.

Cartre' Mark Bridger o'r tu allan
Mae'r erlyniad wedi amlinellu symudiadau Mr Bridger ar y diwrnod y diflannodd April.
Clywodd y llys ei fod wedi mynd at ddwy ferch wyth a 10 oed, a'i fod wedi gwahodd un ohonyn nhw a oedd yn ffrindiau gyda'i ferch i ddod i'r tŷ i gysgu, ond ei fod wedi gyrru oddi yno pan wrthododd hi'r cynnig.
Yn gynharach y diwrnod hwnnw roedd wedi anfon negeseuon at dair dynes ar wefan Facebook, gan ofyn i ddwy a oedden nhw eisiau cwrdd.
Roedd hefyd wedi anfon negeseuon testun at ei gyn gariad wedi i'w perthynas ddod i ben.
Clywodd y rheithgor hefyd fod Mr Bridger wedi dweud wrth yr heddlu yn ystod cyfweliadau ei fod wedi taro yn erbyn April gyda'i gar trwy ddamwain ac wedi "mynd i banig".
"Wnes i ddim ei chipio. Fe wnes i 'ngorau i'w hadfywio hi," meddai.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2013

- Cyhoeddwyd1 Mai 2013

- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2013
