Llys: Datganiad mam April Jones
- Cyhoeddwyd

Roedd April Jones yn bump oed
Cafodd datganiad ysgrifenedig mam April Jones ei ddarllen yn Llys y Goron yr Wyddgrug fore Gwener.
Ysgrifennodd Coral Jones y datganiad ar Hydref 8, 2012 ac mae'n rhoi darlun o'r diwrnod y diflannodd ei merch, Hydref 1.
Mae Mark Bridger, 47 oed yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, cipio plentyn a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Dywedodd y fam iddi godi tua 8am ac nad oedd dim yn wahanol i'r arfer y bore hwnnw.
Roedd hi wedi bod yn poeni am April y diwrnod cynt gan fod ei merch yn dweud bod poenau yn ei stumog ond y bore hwnnw aeth April Jones i'r ysgol.
Ar ôl i April ddod adre, meddai'r fam, roedd April mewn "hwyliau drwg" oherwydd ei bod hi wedi blino.
Gwers nofio
Yn ddiweddarach fe aeth y fam ac April i'r Ganolfan Hamdden ym Machynlleth gan fod gan y ferch wers nofio.
Aeth ffrind April a'i hanner chwaer gyda nhw.
Pan gyrhaeddon nhw adre mi gafodd April a'i ffrind spaghetti ar dost i de cyn i'r ddwy wylio'r ffilm Tangled.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug ddatganiadau Paul a Coral Jones ynglŷn â diflaniad eu merch
Yn ddiweddarach fe ofynnodd April a'i ffrind a allen nhw fynd allan i chwarae.
Er yn amharod i roi caniatâd, ildiodd Paul a Coral i'w dymuniadau.
"Roedd hi'n gofyn a gofyn ac mi gafodd hi bwl o dymer ddrwg ac yn y pen draw mi wnaethon ni adael iddyn nhw fynd allan," meddai'r fam yn ei datganiad.
Am 19:20 pm roedd Coral Jones eisiau i April ddod adre. Roedd ei merch erbyn hynny wedi bod allan am 20 munud ac roedd hi'n tywyllu ac yn oeri.
Chwilio
Dywedodd y fam iddi hi anfon brawd April allan i chwilio amdani.
Ond daeth yn ei ôl wedi ei gynhyrfu oherwydd nad oedd yn medru dod o hyd iddi hi.
Aeth Coral Jones allan i chwilio pob congl o stad Bryn-y-gog amdani hi cyn iddi hi ffonio'r heddlu.
Roedd ffrind i'w mab wedi dweud wrth hi ei fod wedi gweld April yn mynd i gar gyda dyn.
Clywodd y llys sut y daeth Coral Jones i adnabod Mark Bridger.
Dywedodd ei bod yn chwarae dartiau yn nhafarn y Skinners Arms ym Machynlleth ryw 17 mlynedd yn ôl.
Eglurodd hi yn ei datganiad nad oedden nhw yn gyfeillion ond y byddai hi yn ei gydnabod petai'r ddau yn taro i mewn i'w gilydd.
Dywedodd ei bod yn cofio i Mark Bridger rai blynyddoedd yn ôl ei helpu i ddechrau ei char.
Roedd y diffynnydd ar un adeg, meddai, yn ffrindiau gyda'i gŵr Paul ac roedd wedi benthyg llyfr i'r diffynnydd unwaith ynglŷn â goroesi yn yr awyr agored.
Yn ei ddagrau
Roedd y diffynnydd i'w weld yn crïo pan gafodd datganiad Paul Jones, tad April, ei ddarllen.
"Dydw i ddim yn gwybod am unrhyw reswm pam y byddai Mark Bridger eisiau cymryd April a gwneud niwed iddi hi," meddai Mr Jones.
"Mae yntau yn dad hefyd."
Eglurodd sut y bu'n chwilio am ei ferch. "Roeddwn yn teimlo yn gwbl ddiymadferth" meddai.
Dywedodd ei fod yn adnabod y diffynnydd ers tua 1992.
Bryd hynny roedd y ddau yn canlyn dwy chwaer. Cafodd yr argraff ar y pryd fod fod y diffynnydd yn ddyn dymunol.
Benthyg llyfr
Cyfeiriodd hefyd at y llyfr fenthycodd i'r diffynnydd.
Pan ofynnodd Mr Jones am y gyfrol yn ôl, mi wrthododd y diffynnydd, gan honni nad oedd y llyfr ganddo bellach.
Pan aeth tad April i dŷ'r diffynnydd yn ddiweddarach fe welodd y llyfr a'i gymryd yn ôl.
Clywodd y llys dystiolaeth hefyd gan hanner chwaer April sy'n 16 oed.
Fe ddisgrifiodd hi ymdrechion cyson y diffynnydd i geisio bod yn ffrindiau gyda hi ar wefan Facebook.
Roedd y diffynnydd wedi dweud wrthi hi ar y wefan ei fod yn adnabod ei thad.
Dywedodd wrth y llys na wnaeth hi erioed ddod yn ffrindiau gyda'r diffynnydd.
Cylch cyfyng
Yn gynharach eglurodd plismon wrth y llys sut yr aeth ati i gasglu lluniau teledu cylch cyfyng pan aeth April Jones ar goll.
Roedd y Ditectif Gwnstabl David Purdue wedi cael gorchymyn i gasglu lluniau o gamerâu o fewn 15 milltir i Fachynlleth ar ôl i April Jones fynd ar goll fis Hydref 2012.
Dywedodd fod 23 o swyddogion wedi bod yn chwilio trwy'r lluniau wedi iddyn nhw gael eu casglu.
Yn ystod y bore roedd y rheithgor yn astudio lluniau camerâu cylch cyfyng oedd yn rhoi awgrym o symudiadau Mark Bridger rhwng y Medi 30 a Hydref 1 2012.

Y chwilio am April Jones wedi iddi hi ddiflannu fis Hydref 2012
Roedd rhai o'r lluniau hefyd yn rhoi awgrym o symudiadau April Jones yn yr oriau cyn iddi hi ddiflannu.
Ac roedd y lluniau'n cynnwys delweddau o Mark Bridger mewn sawl lleoliad ym Machynlleth a ger ei gartre yng Ngheinws ar Hydref 1.
Yn ogystal roedd 'na luniau o April Jones yng nghwmni ei mam, ffrind a'i hanner chwaer yn gadael y ganolfan hamdden ar ôl gwers nofio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2013

- Cyhoeddwyd1 Mai 2013

- Cyhoeddwyd1 Mai 2013
