Cadwch o dan eich het!

  • Cyhoeddwyd

Wrth i'r gaeaf ddechrau brathu mae'n siŵr na fydd nifer ohonon ni'n mentro allan heb het neu gap i gadw'r pen yn gynnes. Ond mae 'na rai Cymry amlwg yn hoff o'u hetiau beth bynnag fo'r tywydd. Pwy yw perchnogion yr hetiau yma?

het1

Y llwyfan, radio a theledu... mae hon yn gwisgo mwy nag un het. Pwy yw hi?

het 2

Mae'r cap yma i'w weld gan amlaf ar y Carneddau, ond mae stiwdios teledu wedi dod yn ail gartre. Pwy bia'r cap?

cap

Mae'r Cymro yma yn gwisgo cap am resymau tactegol. Ond llun deryn arall sydd arno erbyn hyn. Pwy ydy o?

ffwr

Dy'ch chi ddim yn gweld llawer o hetiau fel hyn yn nociau Caerdydd! Pwy yw'r perchennog?

coron

'Sgwn i a fydd hi'n gwisgo ei choron wrth fwyta ei chinio 'Dolig fel y gwnaeth enillydd coron Llanelli y llynedd. Pwy yw hi?

beret

Mae'r beret yn handi wrth gymdeithasu gyda'r trigolion lleol ar y Rue St Michel. Pwy yw'r Cymro sy'n hoff o Lydaw?

het4

Mae'r gŵr talentog hwn yn gwisgo het wahanol bron iawn bob tro y gwelwch chi o. Pwy ydy o?

dwy het

Raslas bach a mawr! Gwisgo dwy het? A ninnau'n meddwl mai dim ond twmffat twpach na thwp oedd yn gwneud hynny! Pwy ydy o?

het wlan

Mae hi'n oer yn y garafan 'na yn y gaeaf. Fedrwch chi ddatrys y dirgelwch? Pwy ydy o?

het binc

Cap lliwgar i gymeriad lliwgar. Pwy ydy hi?