Meilyr Jones yn ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig
- Cyhoeddwyd

Mae Meilyr Jones wedi cael ei gyhoeddi fel enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2016.
Albwm gyntaf cyn-ganwr Race Horses fel artist unigol - 2013 - ddaeth i'r brig o'r 12 albwm oedd ar y rhestr fer.
Wedi i'r band wahanu, aeth Meilyr i Rufain yn 2013, a'r ymweliad yma wnaeth ysbrydoli'r albwm.
Cafodd ei gyhoeddi fel yr enillydd mewn seremoni yn y Depot yng Nghaerdydd nos Iau.
Roedd nifer o artistiaid sy'n canu yn y Gymraeg wedi'u henwi ar y rhestr fer, fel 9Bach, Sŵnami, Plu ac Alun Gaffey.
Cafodd y wobr ei chreu yn 2011 gan y cyflwynydd radio, Huw Stephens, a'r hyrwyddwr, John Rostron.
Bydd Meilyr Jones yn ymuno ag artistiaid fel Gwenno a Gruff Rhys sydd wedi ennill y wobr yn y gorffennol.
Roedd yr enillydd yn cael ei ddewis gan 12 o arbenigwyr o'r byd cerddoriaeth, gan gynnwys y cerddor Amy Wadge, Dwynwen Morgan o Radio Cymru, y blogiwr Lowri Cooke a'r hyrwyddwr Gwyn Eiddior.


Y 12 albwm oedd ar y rhestr fer
Gweddill y rhestr fer:
9Bach - Anian
Alun Gaffey - Alun Gaffey
Cate Le Bon - Crab Day
Climbing Trees - Borders
Datblygu - Porwr Trallod
Plu - Tir a Golau
Right Hand Left Hand - Right Hand Left Hand
Simon Love - It Seemed Like a Good Idea at the Time
Skindred - Volume
Sŵnami - Sŵnami
The Anchoress - Confessions of a Romance Novelist
