Dau yn y llys yn Ne Affrica am lofruddiaeth Cymry
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i gyrff Roger a Christine Solik mewn afon yn dilyn lladrad yn eu cartref
Mae dau ddyn wedi bod o flaen llys ar gyhuddiadau o lofruddio cwpl o Gymru yn Ne Affrica.
Clywodd llys yn Pietermaritzburg bod Roger a Christine Solik wedi cael eu llofruddio ar ôl cael eu herwgipio.
Mae Xolani Brian Ndlovu, 32, wedi cyfaddef cyhuddiadau o herwgipio, lladrata difrifol a llofruddiaeth.
Fe blediodd dyn arall, Thulani Moses Mthembu, 43, yn ddi-euog i'r un cyhuddiadau.
Ym mis Chwefror fe gafwyd hyd i Mr Solik, 66, a'i wraig, 57, yn farw mewn afon tua 45 milltir o'u cartref yn ardal KwaZulu-Natal, tua 100 milltir o Durban.
Roeddan nhw wedi bod ar goll ers i gymdogion adrodd bod lladrad wedi bod ar eu fferm. Fe symudodd y ddau i Dde Affrica o Gwm Cynon yn y 1980au.
Mae achos Mr Mthembu yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2017

- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2017

- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2017

- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2017
