'Dim tystiolaeth o fwlio yn Ysgol Uwchradd Aberteifi'
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad annibynnol ar gais Cyngor Ceredigion i'r berthynas rhwng rheolwyr a staff yn Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi dod i'r casgliad "nad oes unrhyw dystiolaeth o fwlio neu fygwth".
Cafodd yr ymchwiliad ei gomisiynu wedi honiadau gan staff presennol a chyn aelodau staff bod arferion rheoli'r ysgol wedi creu "diwylliant o ofn".
Dywed y cyngor y bydd yn gweithio gyda'r ysgol i "sicrhau bod pob aelod o staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi" ac yn parhau â thrafodaethau i osgoi rhagor o weithredu diwydiannol gan athrawon.
Ond mewn datganiad beirniadol mae undeb athrawon yr NASUWT yn dweud mai "gwyngalch" yw canfyddiadau'r adroddiad, a bod yr anghydfod yn parhau.
Ddydd Mawrth fe wnaeth aelodau'r undeb gynnal y streic undydd gyntaf mewn cyfres o chwech ar ôl wedi'r hyn y mae'r undeb wedi ei ddisgrifio'n "arferion rheoli andwyol".

Dywed y cyngor y bydd yn gweithio gyda llywodraethwyr yr ysgol, staff ac undebau i gyflawni holl argymhellion yr adroddiad annibynnol, sy'n cynnwys:
Gweithio gyda staff i gydnabod eu cyfraniad i'r gwaith "o wneud Ysgol Uwchradd Aberteifi yn un llwyddiannus";
Ailedrych ar ddulliau monitro, yn enwedig o ran llwybrau dysgu a llais y disgybl;
Gweithio gyda staff i sefydlu diwylliant a phroses i wrando ar bryderon staff ac ymateb mewn ffordd adeiladol;
Atgoffa staff o bolisi cyfryngau cymdeithasol yr ysgol; a
Datblygu ethos tîm trwy gamau yn cynnwys rhannu cyfrifoldebau arwain a chynnwys mwy o staff mewn prosesau monitro i osgoi ddirnadaeth mai'r pennaeth yw'r unig un sy'n gyfrifol am wella'r ysgol.


Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Ellen ap Gwynn bod y cyngor "yn cymryd unrhyw bryderon am ymddygiad staff ysgolion o ddifrif" ac "yn ddiolchgar iawn i'r pennaeth, ei grŵp arwain, a'r holl staff yn yr ysgol" am wella safonau'r ysgol "yn aruthrol" yn y blynyddoedd diwethaf.
"Fodd bynnag," meddai, "er mwyn i'r ysgol weithio'n effeithiol, rydym eisiau sicrhau bod pob aelod o staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn gweithio gyda'r ysgol i gyflawni'r holl argymhellion a wnaed yn yr adroddiad annibynnol."

Athrawon yn picedu mynedfa'r ysgol yn y streic undydd gyntaf ddydd Mawrth
Mae datganiad y cyngor yn dweud bod hi'n "anffodus" bod undebau athrawon "wedi penderfynu mynd ar streic yn Ysgol Uwchradd Aberteifi cyn cyhoeddi canfyddiadau'r ymchwiliad", ac mai'r gobaith yw "y bydd trafodaethau adeiladol yn parhau... er mwyn ceisio datrys y sefyllfa" ac osgoi rhagor o streiciau undydd fis nesaf.
Ond mae un o'r undebau wedi ymateb yn hallt i'r adroddiad ac ymateb y cyngor.
Dywedodd Neil Butler ar ran yr NASUWT mai "dyma'r gwyngalch roedden ni wedi ragweld".
"Mae'r NASUWT yn cefnogi 65% o'n haelodau a ddywedodd wrthon ni trwy'r bleidlais [i streicio] am ddiwylliant o ofn yn yr ysgol," meddai. "Mae'r anghydfod yn parhau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2018

- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2018

- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019

- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2019
