Talcen caled i fowlwyr Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae batwyr Essex wedi cael bore ardderchog yn y gêm yn erbyn Morgannwg yn Colchester yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Gwener.
Roedd Morgannwg allan am 438 yn eu batiad cyntaf diolch i gyfraniadau o 159 gan Stewart Walters, a 54 yr un gan Will Bragg a Graeme Wagg.
Ond roedd y llain yn un dda, ac fe ddaeth hynny i'r amlwg wrth i'r tîm cartref ddechrau batio ddydd Iau, ac fe gafodd bowlwyr Morgannwg gryn drafferth.
Pan ddaeth y chwarae i ben ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, roedd Essex wedi sgorio 165 heb golli wiced, gyda Tom Westley wedi sgorio 90 heb fod allan, a Jaik Mickelburgh ar 72 h.f.a.
Daeth unig lwyddiant Morgannwg yn gynnar ddydd Gwener pan ddisgynnodd wiced Mickleburgh am 74, ond mae Westley wedi mynd o nerth i nerth gan gyrraedd 150 h.f.a. erbyn amser cinio.
Roedd rhai yn darogan y bydd y llain yn dirywio cyn diwedd y pedwar diwrnod - bydd rhaid i hynny ddigwydd er mwyn cael canlyniad positif i'r naill dîm neu'r llall yn Colchester.
Mae Morgannwg yn wythfed yn y tabl, 20 pwynt y tu ôl i Essex, sy'n bumed.
Swydd Essex v Morgannwg (Trydydd Diwrnod - amser cinio)
Morgannwg: (Batiad cyntaf): 438 (Walters 159, Bragg 54, Wagg 54)
Essex:(Batiad cyntaf): 266-1 (Westley 150 h.f.a.)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2012

- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2012