Morgannwg yn arwyddo Goodwin
- Cyhoeddwyd

Chwaraeodd Goodwin 19 gêm brawf dros Zimbabwe
Mae Morgannwg wedi arwyddo cyn fatiwr Swydd Sussex a Zimbabwe Murray Goodwin ar gytundeb blwyddyn.
Mae'r clwb wedi arwyddo'r agorwr 39 oed i gryfhau eu batio yn dilyn tymor trychinebus ym Mhencampwriaeth y Siroedd.
Sgoriodd Goodwin mwy na 24,000 rhediad yn ystod 12 tymor gyda Sussex gan gynnwys y sgôr uchaf erioed i'r sir - 344 heb fod allan yn erbyn Gwlad yr Haf yn 2009.
Chwaraeodd 19 gêm brawf dros Zimbabwe rhwng 1998 a 2000 a sgoriodd 148 heb fod allan yn ei brawf olaf yn erbyn Lloegr yn Nottingham.
Bowliwr cyflym
Dywedodd pennaeth perfformiad elitaidd Morgannwg, Matthew Mott: "Rydym yn hapus dros ben i arwyddo Murray Goodwin oherwydd bydd yn cryfhau'r tîm."
Dywedodd Murray Goodwin ei fod yn ymwybodol o'r heriau wnaeth Morgannwg wynebu'r tymor diwethaf.
"Mae gwaith caled o'n blaenau ond rwy'n benderfynol i helpu Morgannwg lwyddo unwaith eto."
Mae John Glover, Huw Waters, Andrew Salter, Mike Reed, Stewart walters a Ben Wright wedi arwyddo cytundebau newydd gyda Morgannwg ac fe fydd y bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Hogan, yn ymuno â'r clwb y tymor nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2012

- Cyhoeddwyd13 Medi 2012

- Cyhoeddwyd31 Awst 2012

- Cyhoeddwyd17 Awst 2012
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2012