Morgannwg yn dechrau'n wych
- Cyhoeddwyd

Cipiodd Michael Hogan ddwy wiced ar y bore cyntaf
Cafodd Morgannwg ddechrau gwych i'w gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Gaerhirfryn ym Mae Colwyn ddydd Mercher.
Y ddau fowliwr newydd, Michael Hogan a Michael Reed, ddechreuodd y difrod wedi i'r ymwelwyr alw'n gywir a dewis batio.
Ar un cyfnod roedd yr ymwelwyr yn 66 am 5 wiced cyn sicrhau cyfanswm o 123 yn eu batiad cyntaf.
Roedd y llain yn anodd i'r ddau dîm, ac roedd hi'n waith araf i fatwyr Morgannwg wrth ymateb.
Roedd bowliwr Lloegr, James Anderson, ar ei orau hefyd, ac fe gipiodd dair o wicedi Morgannwg.
Ond trwy ddyfalbarhâd mae'r tîm cartref bron wedi dod yn gyfartal â sgôr yr ymwelwyr, ac ond wedi colli pedair wiced erbyn i'r chwarae ddod i ben.
Sgoriodd Will Bragg 34 a Marcus North 22 wrth i Forgannwg gyrraedd 110 am 4 ar ddiwedd y dydd.
Morgannwg v Sir Gaerhirfryn - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran; Bae Colwyn
Sgôr ddiweddaraf (diwedd y diwrnod cyntaf)
Sir Gaerhirfryn - (batiad cyntaf) 123
Morgannwg - (batiad cyntaf) 110 am 4 wiced
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
