Ymchwiliad i farwolaethau berdys
- Cyhoeddwyd

Gammaridae, sef math o ferdys dŵr croyw, a gafodd eu darganfod
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ymchwiliad wedi iddyn nhw ddarganfod berdys (shrimp ) meirw ar hyd 18 cilometr o afonydd Elái a Chlun yn gynharach yn yr wythnos.
Lladdwyd nifer helaeth ohonynt ar lannau'r afonydd rhwng Tonysguboriau, Pontyclun a Sain Siorys, i'r gorllewin o Gaerdydd.
Un achos posibl yw bod tymheredd uchel naill ai wedi achosi neu wedi cyfrannu tuag at y marwolaethau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn monitro ein hafonydd, llynnoedd a phyllau yn rheolaidd: a phan fo llif yr afonydd yn fychan, ac yn enwedig yn ystod tywydd poeth, sych, rydym yn cadw golwg am effeithiau posibl ar blanhigion ac anifeiliaid ein hafonydd.
"Os gwelwch unrhyw bysgod mewn trafferthion, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth i'n hymchwiliad, galwch ein llinell frys ar 0800 80 70 60".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2013

- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012