Llyfrgelloedd: llawer mwy na llyfrau
- Cyhoeddwyd

Yn ôl y pwyllgor, mae llyfrgelloedd yn werth llawer mwy na llyfrau i gymunedau
Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad wedi datgan bod llyfrgelloedd yn golygu llawer mwy na llyfrau yn unig i nifer o gymunedau yng Nghymru.
Yn ôl Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol, mae llyfrgelloedd yn cyfrannu'n fawr at fywyd cymunedol gan gynnwys addysg, iechyd a lles, trechu tlodi ac allgau cymdeithasol.
Gall llyfrgelloedd hefyd bontio'r 'rhaniad digidol' drwy ddarparu'r cyfle i ddefnyddio'r rhyngrwyd am ddim - rhywbeth a ddylai barhau, medd y pwyllgor.
Mae'r pwyllgor yn galw ar lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i wneud mwy i ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau mewn llyfrgelloedd.
Hyrwyddo llyfrgelloedd
Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion ynglŷn â chyfleoedd posibl i godi arian tu allan i wasanaethau hanfodol, a rhannu lleoliadau gyda gwasanaethau eraill, lle byddai nifer o gyfleusterau a gwasanaethau awdurdodau lleol yn rhannu un safle.
Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol:
"Gyda thoriadau yn parhau mewn gwariant cyhoeddus, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod nifer o awdurdodau lleol yn ystyried naill ai gau cyfleusterau neu gynnig llai o wasanaethau ynghyd â chymorth gan wirfoddolwyr i arbed arian.
"Mae nifer o enghreifftiau gwych yng Nghymru o sut mae awdurdodau lleol yn defnyddio cydleoli i wella'r gwasanaethau sydd ar gynnig, ac rydym yn credu y gellir dysgu o'r enghreifftiau hyn.
"Rydym hefyd yn awyddus i weld Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gwneud mwy i hyrwyddo'r gwasanaethau hyn, yn ogystal ag ymchwilio i gyfleoedd i godi arian er mwyn diogelu'r cyfleusterau hanfodol hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2013
