Deddf Teithio Llesol yn dod i rym
- Cyhoeddwyd

Mae Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru bellach wedi dod i rym.
Ei nod yw annog pobl i gerdded a seiclo yn hytrach na dibynnu ar geir ac mae'n ei wneud yn orfodol i awdurdodau lleol hyrwyddo ffyrdd iach o deithio.
O hyn ymlaen bydd yn rhaid i gynghorau ddarparu mapiau sy'n dangos llwybrau sy'n addas ar gyfer cerdded a seiclo.
Mae dyletswydd arnyn nhw hefyd i wella'r llwybrau hynny, gan sicrhau eu bod yn cysylltu rhwng llefydd prysur fel ysbytai, ysgolion a chanolfannau siopa, gan gynnig mwy o gyfleoedd i deithio'n iach.
Yn ôl Gweinidog yr Economi Edwina Hart, mi fydd y llywodraeth yn cyhoeddi "canllawiau dylunio a chyflawni fydd yn rhoi arweiniad i'r awdurdodau lleol ar sut i weithredu'r ddeddf" yn y man.
'Gwella iechyd'
Mae Jane Lorimer o Sustrans Cymru yn grediniol y bydd y ddeddf yn ei wneud yn haws i blant a phobl ifanc gyrraedd yr ysgol mewn ffordd iach.
Dywedodd: "Mae'n gwaith ni'n dangos y byddai dros hanner ein plant yn hoffi beicio i'r ysgol, ond y gwirionedd yw mai dim ond 2% o'r teithiau i'r ysgol yng Nghymru sy'n cael eu gwneud ar gefn beic.
"Drwy annog pobl ifanc i feicio ac i gerdded yn amlach, gallwn ni wella iechyd y cyhoedd a mynd i'r afael â'r tagfeydd sy'n cael eu hachosi gan draffig yn cludo plant i'r ysgol."
Cafodd y ddeddf ei chefnogi gan bob plaid yn y Cynulliad ond mae rhai cynghorau wedi codi pryderon am y ffaith na fyddan nhw'n derbyn unrhyw arian ychwanegol er mwyn cyflawni'r gofynion newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2013
