Pawb a'i Farn: Cyfres newydd yn dechrau
- Cyhoeddwyd

Dewi Llwyd a chyfres newydd o Pawb a'i Farn
Mae'r gyfres drafod Pawb a'i Farn ar daith eto gan roi cyfle i chi leisio'ch barn ar sawl pwnc o bwys.
Mae'n addo bod yn flwyddyn brysur yn wleidyddol unwaith eto gydag etholiadau'r cynghorau lleol fis Mai, a'r trafodaethau Brexit yn parhau.
Bydd Dewi Llwyd a thîm Pawb a'i Farn yn teithio i chwech o leoliadau ar draws Cymru gan roi cyfle i holi panel o wleidyddion, arbenigwyr ac yn achlysurol sêr y sgrin fach.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C am 9.30pm ar Nos Iau.
19 Ionawr - Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
26 Ionawr - Pafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid
2 Chwefror - Porchester Hall, Llundain
9 Chwefror - Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo
16 Chwefror - Gwesty Parc Treftadaeth y Rhondda, Rhondda
23 Chwefror - Y Stiwt, Rhosllanerchrugog
Os hoffech chi fod yn rhan o'r gynulleidfa yn Bont neu Landeilo ffoniwch 07887 853101 ac am bob lleoliad arall ffoniwch 01352 754212, neu ebostiwch pawbaifarn@bbc.co.uk.
Twitter: #pawbaifarn i ymuno yn y drafodaeth neu @bbccymrufyw