Y farn yn fan hyn: Llundain
- Cyhoeddwyd

Bydd rhai o aelodau'r aelwyd yn y gynulliedfa wrth i Pawb a'i Farn ddod o Lundain
Bydd rhaglen Pawb a'i Farn yn dod o Lundain yr wythnos hon ac mae rhai o aelodau Aelwyd Llundain wedi cael gwahoddiad i fod yn rhan o'r trafod. Mae Cymru Fyw wedi cael y blaen ar Dewi Llwyd gan holi ambell gwestiwn iddyn nhw.

Awr ginio neu frechdanau wrth y cyfrifiadur?
Awr ginio'n ddelfrydol ond wrth y cyfrifiadur gan amlaf!
Beth yw'r peth gorau / gwaethaf am fyw yn Llundain?
Marged: Gorau: Dinas aml-ddiwylliannol, liwgar, a rhywbeth difyr bob amser i'w wneud.
Gwaethaf: Prysurdeb, llygredd, diffyg awyr iach.
Siwan: Y peth gorau yw'r wledd o ddramau, cyngherddau, ac arddangosfeydd sydd ar gael yma.
Y peth gwaethaf yw'r gost uchel o fyw mewn dinas mor anhygoel!

Llundain - dinas aml-ddiwylliannol a liwgar, ond drud!
Pe bai ti'n Brif Weinidog am y diwrnod beth fyddet ti'n newid?
Lowri: Buddsoddi mwy mewn addysg ac iechyd, a'i gwneud hi'n dipyn anoddach i fusnesau mawr ac unigolion cyfoethog osgoi talu trethi ar eu hennillion.
Marged: Troi adeiladau gwag sydd ddim yn cael eu defnyddio yn llochesi i'r digartref, ac yn gartrefi fforddiadwy.
Pwy fyddet ti'n ei ddewis fel Arlywydd newydd America?
Lowri & Marged: Michelle Obama.
Siwan: Yn enwedig wedi etholiad Obama, mae hi wir yn dorcalonnus gweld y math o bolisïau sydd yn cael eu blaenoriaethu gan yr Arlywydd newydd.
Mi fyddai gweld rhywun fel Ilhan Omar fel Arlywydd yn gyrru neges hollol wahanol ar sut y dylai trin ffoaduriaid.

Ilhan Omar fyddai dewis Siwan ar gyfer swydd yr Arlywydd
Brexit - cyfle gwych neu hunllef?
Lowri & Marged: Hunllef.
Siwan: Chwe mis yn ôl i fyddwn i wedi dweud hunllef ond credaf bellach bod cyfleoedd yn nhermau'r economi yn y hir dymor.
Wedi dweud hynny rwyf yn bryderus am yr effaith a gaiff y bleidlais ar ein polisïau mewnfudo, a hefyd fod rhai ymgyrchwyr blaenllaw ar y dde wedi rhoi platfform i ragfarnau hiliol.
Gwleidyddion - pobl lwydaidd neu'n gwneud gwahaniaeth?
Lowri: Dibynnu am bwy mae rhywun yn siarad! Dwi'n meddwl fod yna wleidyddion hollol anhygoel i'w cael, pobl egwyddorol a phenderfynol, fel Mhairi Black, ond dwi hefyd yn deall fod hi'n swydd ofnadwy o anodd.
Mae eisiau mwy o wleidyddion o gefndiroedd gwahanol yn San Steffan ac yng Nghaerdydd, a llai o career politicians - dwi'n meddwl fod cael amrywiaeth o brofiadau bywyd ac arbenigeddau'n bwysig.
Rygbi? Pêl-droed? Beth yw prif gamp y Cymry?
Lowri: Pêl-droed! 'Sgen i'm llawer o ddiddordeb mewn rygbi, ond dwi'n caru pêl-droed, felly roedd cael dathlu'r holl lwyddiannau haf diwethaf yn brofiad anhygoel.
Siwan: Rygbi fel rheol! Er, mi wnes i bendant ddisgyn mewn i'r categori fyddai gwir gefnogwyr o'r gêm yn ei alw'n glory hunter yn ystod yr Euros!
O ble wyt ti'n cael dy newyddion?
Siwan: Lle nad oes modd cael y newyddion y dyddiau hyn? Radio, teledu, papurau newydd (wel, apps fwy na dim), Twitter. Mae'r rhestr yn hirfaith… Dwi'n ffan fawr o'r Spectator a'r Times - a Cymru Fyw wrth gwrs!
Pe bai ti'n ennill miliwn o bunnau ar y loteri - beth fyddet ti'n ei brynu?
Lowri: Tŷ, dwi'm yn siwr iawn sut dwi am allu fforddio un fel arall!
Marged: Dim, ei ddefnyddio i dalu fy nyled benthyciad myfyriwr.

Dim ond un ffordd sydd o osgoi hangover meddai Lowri
Beth yw'r wers orau rwyt ti wedi ei dysgu hyd yma?
Lowri: Fod hi'n bwysig gwneud y mwya' o bob cyfle, a mai treulio amser efo ffrindiau a theulu ydi'r peth pwysicaf mewn bywyd.
Hefyd - peidio yfed yn y lle cynta' ydi'r unig hangover cure sy'n gweithio.
Marged: I beidio gorfeddwl am y dyfodol, a chanolbwyntio ar y presennol.
Beth fyddi di yn ei wneud ymhen 10 mlynedd?
Siwan: Hoffwn i fod mewn swydd dwi'n ei charu ac yn dal i gael mwynhau cwmni fy nheulu a ffrindiau anhygoel. O, a gweld niferoedd Aelwyd Llundain wedi treblu! Côr yr Ŵyl efallai?
Lowri: Dim syniad, gobeithio fyddai'n dal i joio, wedi cael digon o gyfleoedd i deithio, ag yn berchen ar dŷ.
Dewi Llwyd - beth yw dy hoff beth amdano?
Marged a Siwan: Ei lais.
Lowri: Chwaeth grêt mewn sbectols.

Bydd Pawb a'i Farn ar S4C am 21:30, nos Iau 2 Chwefror.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2017

- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2017

- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2017
