Teyrngedau i ddyn fu farw wedi ymosodiad ym Mangor
- Cyhoeddwyd

Roedd Henry Ayabowei yn dad i ddau o blant
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i ddyn fu farw ar ôl ymosodiad y tu allan i glwb nos ym Mangor.
Cafodd Henry Ayabowei, oedd yn cael ei adnabod fel Henry Esin, ei ganfod gan yr heddlu y tu allan i glwb Peep nos ychydig cyn 02:00 fore Sadwrn.
Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd, cyn cael ei drosglwyddo i Stoke, lle bu farw fore Sul.
Dywedodd Clwb Pêl-droed Llanfairpwll fod Mr Ayabowei yn "fonheddwr ym mhob synnwyr".
Roedd Mr Ayabowei, 27, yn dod o ardal Llangefni ac yn dad i ddau o blant.

Mae blodau hefyd wedi'u gadael y tu allan i'r clwb nos ble digwyddodd yr ymosodiad
Bu'n chwarae pêl-droed i nifer o glybiau ar Ynys Môn, ac yn fwyaf diweddar bu'n chwarae dros Lanfairpwll.
Dywedodd y clwb: "Rydym yn cynnig ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Henry ar yr amser torcalonnus yma.
"Ni fydd yn cael ei anghofio fyth, roedd yn fonheddwr ym mhob synnwyr."
Mynegodd yr Arolygydd Owain Llewellyn o Heddlu'r Gogledd hefyd ei "sioc" a'i "dristwch" yn dilyn "marwolaeth drasig y dyn teulu ifanc yma".
Mae dyn 26 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa yng Nghaernarfon.

Digwyddodd yr ymosodiad y tu allan i glwb nos Peep ym Mangor
Mewn datganiad, fe wnaeth clwb nos Peep gynnig eu cydymdeimlad i deulu Mr Ayabowei yn y "cyfnod trasig" yma.
Dywedodd y datganiad bod staff y clwb wedi cynorthwyo'r heddlu gyda'r digwyddiad, ac yn parhau i weithio gyda'r heddlu wrth i'r ymchwiliad barhau.