Ceisio llofruddio: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae Katrina Evemy yn dal mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio wedi i fenyw 19 oed gael ei gadael mewn cyflwr difrifol iawn wedi digwyddiad yn Llanelli.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Rhoddfa'r Graig yn y dre am tua 17:45 brynhawn dydd Iau, 13 Ebrill.
Mae Katrina Evemy yn parhau mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty.
Fe ymddagosodd Dylan Hywel Harries, 21 oed, yn llys ynadon Llanelli ddydd Llun.
Cafodd Harries, o Panteg, Llanelli, ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2017
