Carcharu dyn am lofruddio cwpl o Gymru yn Ne Affrica
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i gyrff Roger a Christine Solik mewn afon yn dilyn lladrad yn eu cartref
Mae dyn wedi ei garcharu am oes am lofruddiaeth cwpl o Gymru yn Ne Affrica.
Cafodd Roger a Christine Solik eu darganfod yn farw ym mis Chwefror y llynedd ar ôl cael eu herwgipio.
Cafodd Xolani Brian Ndlovu, 38, ei ddedfrydu ddydd Mawrth ar ôl pledio'n euog i lofruddio'r ddau.
Cafodd hefyd ddedfryd o 10 mlynedd am eu herwgipio, a 15 mlynedd am ladrad.
Cafwyd hyd i Mr Solik, 66, a'i wraig, 57, yn farw mewn afon tua 45 milltir o'u cartref yn ardal KwaZulu-Natal, tua 100 milltir o Durban.
Fe wnaeth y ddau symud i Dde Affrica o Gwm Cynon yn y 1980au.
Mae dyn arall, Thulani Moses Mthembu, 43, yn gwadu cyhuddiadau o herwgipio, lladrata a llofruddiaeth.
Mae ei achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2017
