Cymmrodorion yn anrhydeddu'r hanesydd Prys Morgan
- Cyhoeddwyd

Mae'r hanesydd yr Athro Prys Morgan wedi cael ei gyflwyno gyda Medal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion mewn seremoni yn Llundain.
Dywedodd y gymdeithas ei fod wedi ei anrhydeddu yn y cyfarfod ddydd Mercher am ei gyfraniad arbennig i fyd ysgolheictod, hanes y genedl ac i Gymru gyfan.
Yn gyn-athro hanes ym Mhrifysgol Abertawe, mae Prys Morgan nawr yn Athro Emeritws yn y brifysgol, yn llywydd Cymdeithas y Cymmrodorion ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae ei gyhoeddiadau academaidd yn cynnwys cyfrolau ar Iolo Morgannwg, Dadeni'r 18fed Ganrif, hanes Prifysgol Cymru, a chyfenwau Cymreig.
Mae'n fab i'r academydd T J Morgan ac yn frawd i gyn-brif weinidog Cymru, y diweddar Rhodri Morgan.
Llynedd cafodd Medal y Cymmrodorion ei rhoi i'r awdures a'r hanesydd Jan Morris.
Mae'r enwau eraill sydd wedi derbyn y fedal yn y gorffennol, dolen allanol yn cynnwys T H Parry Williams, Saunders Lewis, Kate Roberts, a Kyffin Williams.