Ysgol Aberteifi wedi gweld 'cynnydd positif', medd adroddiad
- Cyhoeddwyd

Clywodd cynghorwyr Ceredigion fod yna "gynnydd positif " wedi bod yn Ysgol Aberteifi yn dilyn ffrae ynglŷn â bwlian honedig.
Ym mis Ionawr fe wnaeth aelodau undeb yr NASUWT gynnal streic gan honni fod tîm rheoli'r ysgol wedi creu "diwylliant o ofn".
Yn ôl adroddiad gan Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol Ceredigion, mae Ysgol Aberteifi wedi bod ar "siwrne o welliant dros y degawd diwethaf gan lwyddo i gynyddu nifer y disgyblion".
"Dyw'r ysgol heb fod yn amddiffynnol wrth drafod gyda'r undeb ynglŷn â'r hyn mae eisiau iddynt dderbyn, sef bod yn rhaid i'r arddull wrth sicrhau safonau fod yn wahanol," meddai'r adroddiad.
Dywedodd Meinir Ebsworth, prif swyddog ysgolion y sir, ei bod yn bwysig "cefnogi ein staff er mwyn caniatáu iddynt wella, ac mae'n rhaid i benaethiaid sicrhau'r gorau o ran y plant".

Bu rhai athrawon yr ysgol ar streiciau undydd yn Rhagfyr 2018 a Ionawr 2019
Ychwanegodd Mr Rees na fyddai'r "awdurdod yn camu yn ôl wrth herio safonau ysgolion neu'r broses i ddilyn pe bai athrawon yn tan berfformio".
Daw adroddiad Rees yn sgil ymchwiliad annibynnol gafodd ei gomisiynu gan y sir i'r berthynas rhwng rheolwyr a staff Ysgol Uwchradd Aberteifi.
Ym mis Ionawr fe ddaeth yr ymchwiliad i'r casgliad "nad oes unrhyw dystiolaeth o fwlio neu fygwth".
Ar y pryd dywedodd yr NASUWT mai "gwyngalch" oedd canfyddiadau'r adroddiad, a bod yr anghydfod yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019

- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2018

- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2019

- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2018
