Cwpan Hoci'r Byd: Yr Ariannin 6-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cymru v Yr ArianninFfynhonnell y llun, World Sports Pics
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cymru'n cystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf erioed

Colli'n drwm oedd tynged Cymru yn eu gêm olaf yng Nghwpan Hoci'r Byd.

Yn y gem i ddethol pwy fyddai'n gorffen yn nawfed, yr Ariannin aeth a hi o 6-0 wrth i ymgyrch tîm Danny Newcombe ddod i ben.

Aeth yr Ariannin i'r egwyl ddwy ar y blaen diolch i Lucas Toscani a Martin Ferreiro.

Ond bob amser yn edrych yn gyfforddus, dim ond cryfhau wnaeth yr Ariannin.

Aeth Augustin Bugallo ymlaen i daro trydydd a llwyddodd Tarazona Santiago i drosi o gic gosb i wneud y sgôr yn 4-0.

Gorffennodd yr Ariannin gyda llewyrch wrth i Maico Casella danio'n rymus i do'r rhwyd ​​i'w gwneud hi'n 5-0 cyn i Ferreiro ychwanegu ei ail o'r gêm a phumed o'r twrnamaint o ongl gul.

Er colli'n erbyn Lloegr, Sbaen ac India yn y grwpiau, bydd Cymru' edrych yn ôl ar y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc fel uchafbwynt y gystadleuaeth wrth ymuno gyda mawrion y gamp am y tro cyntaf.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol