'April â wyneb hapus wrth gamu i'r cerbyd'
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Craig Duggan
Mae ffrind April Jones wedi dweud wrth lys bod ganddi "wyneb hapus" wrth gamu i mewn i gerbyd cyn diflannu.
Mae Mark Bridger, 47, o Geinws ger Machynlleth, yn gwadu cipio a llofruddio April Jones ac o fwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Aeth April ar goll ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1 y llynedd.
Fore Mawrth gwyliodd rheithgor Llys y Goron Yr Wyddgrug gyfweliad yr heddlu â ffrind saith oed April.
Dywedodd y ffrind: "Roedd April a fi wedi bod yn chwarae.
'Yn gyfarwydd'
"Mi oedd dyn ger ei fan ac roedd April ger fan y Land Rover."
Pan ofynnwyd a oedd hi wedi gweld y cerbyd o'r blaen, dywedodd: "Mae'n gyfarwydd oherwydd 'dwi wedi gweld dau o bobl ynddo o'r blaen."
Yn ddiweddarach yn y cyfweliad dywedodd y ffrind: "Ni ddywedodd April y byddai'n mynd i mewn i'r cerbyd.
"Nid oedd y dyn wedi mynd â hi i mewn i'r fan.
"Roedd ei hwyneb hi'n hapus pan gamodd i mewn i'r fan."
Dywedodd ei bod wedi gweld llun o Land Rover ar ffôn ei mam.
Pan oedd yn tynnu llun o'r Land Rover gofynnodd yr holwr fwy o gwestiynau iddi.
Llaid
Dywedodd y ffrind fod llaid ar yr olwynion.
"Mi oedd y ffenestri'n eitha' glân a'r cerbyd ond doedd y teiars ddim."
Yna fe ddywedodd: "Camodd y dyn o'r fan. Mi oedd yn aros am rywun... wn i ddim pam oedd April am fynd oherwydd roedd ei mam a'i thad wedi dweud na ddylai fynd i mewn i geir fel hwn."
Wedyn rhoddodd ei ffrind dystiolaeth drwy gyswllt fideo.
"Mi gamodd hi i mewn i'r car. Doedd hi ddim yn crio. Mi oedd hi'n hapus. Camodd i mewn i gefn y fan..."
Dywedodd na chlywodd hi neb yn siarad. "Mi oeddwn i'n rhy bell."
Roedd April wedi camu i mewn drwy ddrws y gyrrwr, meddai. "Mi driodd hi'r ddau ddrws cefn ond doedden nhw ddim yn gweithio."

Mae Mark Bridger wedi ei gyhuddo o ladd April Jones mewn ymosodiad â chymhelliad rhywiol
Dywedodd fod brawd April wedi cyrraedd a dweud ei bod yn bryd mynd adre'.
Yna fe roddwyd gwybod i'r awdurdodau.
Wrth gyfeirio at y dyn, dywedodd y ffrind: "Mi oedd ei lygaid yn wyrdd neu'n las... dwi'n credu ei fod yn gwisgo siaced neu siwmper..."
Pan ofynnwyd iddi fanylu dywedodd: "Dwi'n credu bod ei wallt yn frown... dwi'n sicr fod ei wallt yn frown... dwi ddim yn sicr am unrhywbeth arall."
Yn ddiweddarach holodd Brendan Kelly QC y ffrind am yr hyn ddigwyddodd ar Hydref 1.
Gofynnodd a oedd ganddi olwg dda o'r Land Rover.
Cyfweliad
Cytunodd y ffrind cyn dweud nad oedd ganddi olwg lawn.
Yna holodd hi am y cyfweliad â'r heddlu.
"Roedd hi'n amser hir cyn iddyn nhw ddeall fy nisgrifiad i o'r Land Rover."
Cadarnhaodd ei bod hi wedi dweud bod y cerbyd yn llwyd ac yn fan.
Roedd mam y ffrind wedi dweud bod ei merch wedi gweld y Land Rover glas ar y newyddion ar Hydref 2 ac yn mynnu mai hwn oedd yr un yr oedd wedi ei weld.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2013
- Cyhoeddwyd2 Mai 2013
- Cyhoeddwyd1 Mai 2013

- Cyhoeddwyd1 Mai 2013
