Diffynnydd 'mewn cyflwr emosiynol'
- Cyhoeddwyd

Ofer fu ymdrechion i ddod o hyd i April Jones ers ei diflaniad ym mis Hydref
Dywedodd y plismon a arestiodd Mark Bridger wrth y rheithgor fod y diffynnydd "yn ddagreuol ac mewn cyflwr emosiynol" wrth gael ei arestio.
Mae Mr Bridger, 47 oed, o Geinws ger Machynlleth, yn gwadu cipio a llofruddio April Jones a chyhuddiad o fwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener, clywodd y rheithgor dystiolaeth hefyd gan blismones gafodd ei hanfon i arestio Mr Bridger.
Cafodd y Ditectif Gwnstabl Sarah Totterdale ei hanfon i dŷ Mr Bridger brynhawn Hydref 2, ac aeth yno gyda dau gydweithiwr.
Pan aeth i mewn i'r tŷ, gwelodd dân, a dywedodd fod y gwres yn amlwg yn syth.
Dywedodd un o'i chydweithwyr wrthi am alw enw April gan y byddai efallai yn ymateb i lais menyw.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Totterdale iddi wneud hynny ond ni chlywodd ateb.
Oglau cemegau
Dywedodd bod oglau cryf o ddillad wedi eu golchi, ac roedd arogl cemegyn y gallech ei ddefnyddio i olchi'r llawr yn yr awyr.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Totterdale fod plismyn wedi chwilio yr atig, a defnyddio fflachlamp i chwilio'r simdde ond doedd yna ddim golwg o April na Mr Bridger.
Wrth iddi gael ei chroesholi gan Brendan Kelly QC ar ran yr amddiffyniad, dywedodd fod arogl cynnyrch glanhau yn ymddangos yn gryf yn yr ystafell fyw a thuag at yr ystafell ymolchi.
Awgrymodd Mr Kelly fod y tân coed yn y tŷ hefyd yn cael ei ddefnyddio i wresogi'r dŵr a'r gwres canolog.
Yn gynharach ar y dydd Gwener, Hydref 2, clywodd y llys bod Mr Bridger wedi mynd â'i gar i'r garej, ac roedd y clerc yno wedi sylwi ei fod yn gynhyrfus.
Mewn tystiolaeth ysgrifenedig, dywedodd y clerc Sophy Zlajic bod Mr Bridger wedi dod â'i gerbyd Land Rover i mewn am tua 9:30am y bore wedi i April fynd ar goll.
Yn ôl Ms Zlajic dywedodd Mr Bridger: "Dwi newydd glywed - does gen i ddim teledu na radio i fyny yna."
Ychwanegodd fod Mr Bridger "yn amlwg dan deimlad pan ddywedodd hyn, ond wnaeth o ddim cyfeirio at April wrth ei henw".
'Anodd agor drysau'
Roedd perchennog y garej, Robert Evans, hefyd yn cofio'r digwyddiad, gan ddweud bod Mr Bridger wedi dychwelyd i'r garej rhwng 1:00 a 1:30pm.
Dywedodd Mr Evans bod rhai o ddrysau'r Land Rover yn anodd eu hagor, gan ddweud bod honno'n broblem gyffredin gyda'r math yna o gerbyd.
Ychwanegodd y byddai plentyn wedi cael trafferth i agor y drysau.
Dagreuol
Yna clywodd y llys dystiolaeth plismon arall, Cwnstabl Phil Saunders, a arestiodd Mr Bridger ar Hydref 2.
Dywedodd ei fod wedi cael cyfarwyddyd i arestio Mr Bridger pe bai'n ei weld, ac ychydig yn ddiweddarach fe welodd dyn oedd yn cyfateb i'r disgrifiad o Mr Bridger.
Fe arestiodd Mr Bridger, darllen ei hawliau iddo, ac fe ddywedodd y diffynnydd "Rwy'n gwybod am beth mae hyn."
Gofynnodd y plismon iddo "Ble mae hi?" ac atebodd Mr Bridger:
"Damwain oedd y cyfan ... dydw i ddim yn gwybod ble mae hi."
Yn ôl Cwnstabl Saunders, aeth Mr Bridger ymlaen i ddweud: "Dwi wedi bod yn chwilio amdani drwy'r nos a heddiw ar droed am fod fy nghar yn y garej.... fe wnes i fy ngorau i'w hadfywio...mae fy mab a merch yn chwarae yn ei thŷ hi....dwi ond yn dyheu y gallwn i gofio beth wnes i gyda hi".
Ychwanegodd Cwnstabl Saunders fod Mr Bridger wedi dechrau crïo wrth gael ei arestio a'i fod "mewn cyflwr emosiynol", ac ychwanegodd iddo ddweud, "fyddwn i ddim wedi ei gadael hi - mae'n berson dynol".
Gwelwyd Mr Bridger yn sychu dagrau o'i lygaid wrth glywed y dystiolaeth yn y doc.
Yn dilyn tystiolaeth Cwnstabl Saunders, fe ohiriwyd yr achos gan y barnwr.
Mae Mr Bridger yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ac fe fydd yr achos yn parhau fore Llun, Mai 13.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2013
- Cyhoeddwyd8 Mai 2013
- Cyhoeddwyd7 Mai 2013
- Cyhoeddwyd2 Mai 2013
- Cyhoeddwyd3 Mai 2013