Gwaed April 'ar lawr diffynnydd'
- Cyhoeddwyd

Mewn cyfweliad gyda'r heddlu dywedodd Mark Bridger ei fod wedi taro April Jones yn ddamweiniol gyda'i gar
Mae rheithgor achos y dyn ar gyhuddiad o lofruddio April Jones wedi clywed bod gwaed a ganfuwyd mewn sawl man yn ei gartref yn cyfateb i DNA'r ferch fach.
Dywedodd arbenigwr fforensig wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug fod gwaed ar lawr ystafell fyw Mark Bridger a bod y tebygrwydd fod y gwaed yn perthyn i unrhyw un heblaw April yn un mewn biliwn.
Mae'r dyn 47 oed o Geinws ger Machynlleth yn gwadu cipio a llofruddio April Jones ac yn gwadu bwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r erlyniad wedi honni ei fod wedi lladd April Jones mewn ymosodiad oedd â chymhelliad rhywiol.
Yn ddamweiniol
Dywedodd y diffynnydd mewn cyfweliadau gyda'r heddlu ei fod wedi taro'r ferch fach yn ddamweiniol gyda'i gar ac wedi mynd i banig.
Hefyd dywedodd nad oedd yn cofio beth wnaeth gyda'i chorff am ei fod wedi meddwi.
Ddydd Llun clywodd y llys gan yr arbenigwr fforensig Emma Howes oedd wedi archwilio tystiolaeth o gerbyd a chartref Mr Bridger.
Roedd gwaed Mr Bridger wedi ei ganfod ar garped yr ystafell fyw mewn dau le, meddai.

Clywodd y llys y cafodd gwaed April Jones ei ganfod o dan garped yn ystafell fyw Mark Bridger
Clywodd y rheithgor hefyd dystiolaeth am yr hyn oedd yn ymddangos fel ôl gwaed.
Dywedodd Ms Howes bod dafnau o waed o dan ran o'r carped oedd yn ymddangos fel pe baen nhw wedi "llifo drwy'r carped".
Pan ofynnwyd iddi am y posibilrwydd bod yr eiddo wedi cael ei lanhau, dywedodd hi fod "rhannau o waed o gwmpas ymyl y staen ... oedd yn ymddangos fel pe baen nhw wedi eu dyfrio" oedd yn arwydd posib fod y gwaed wedi cael ei "wlychu".
Dywedodd fod gwaed April Jones wedi cael ei ganfod mewn sawl man yn y tŷ a chyfeiriodd at lawer o waed ger y lle tân.
'Gorwedd'
"Roedd fel pe bai April wedi bod yn gorwedd yno am gyfnod o amser," meddai.
Ychwanegodd fod olion o waed April wedi eu canfod ar garped y cyntedd.
Cafodd profion eu cynnal ar waed mewn tri lle, ac roedd y tri'n cyfateb i waed April, meddai.
Dywedodd Ms Howes wrth y rheithgor fod smotiau o waed wedi eu canfod ar soffa yn yr ystafell fyw, llen y gawod yn yr ystafell ymolchi ac ar waliau a drws yr ystafell ymolchi.
'Yn bresennol'
Roedd olion hefyd ar y tu mewn i ddrws y peiriant golchi dillad.
Clywodd y llys hefyd fod bwyell wedi ei chanfod gyda gwaed arni ond nad oedd modd codi proffil DNA ohoni.
Dangosodd profion ar siwmper 'fleece' Mr Bridger smotiau o waed ac, yn ôl Ms Howes, roedd DNA Mr Bridger ac April Jones "yn bresennol".
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2013
- Cyhoeddwyd9 Mai 2013

- Cyhoeddwyd8 Mai 2013
- Cyhoeddwyd7 Mai 2013
- Cyhoeddwyd2 Mai 2013
- Cyhoeddwyd3 Mai 2013